Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Mehefin 2017.
Y peth cyntaf yr hoffwn ei wneud yw estyn fy nghydymdeimlad i bawb sydd wedi eu heffeithio gan hyn, ond hefyd fy niolch, ochr yn ochr â phawb arall, i'r rhai a helpodd i achub yr unigolion hynny a'r cymorth roeson nhw ar ôl hynny. Nid wyf am ailadrodd rhai o'r sylwadau sydd wedi eu dweud, ond rwy’n credu bod un datganiad amlwg iawn y mae'n rhaid ei wneud yma heddiw, a hynny yw nad oes yr un person yn y DU wedi marw erioed mewn adeilad lle mae chwistrellwyr tân wedi eu gosod. Ac mi fyddaf yn gadael sylwadau pellach ar hynny gyda fy nghyd-Aelod Ann Jones, a fydd, gobeithio, yn cymryd rhan yn y ddadl yn nes ymlaen.
Fe hoffwn i ddwyn eich sylw at rai o'r materion nad ydyn nhw wedi'u crybwyll yma yn y Siambr y bore yma: y mater ynghylch grisiau mewn blociau aml-lawr neu dai amlfeddiant, a ph’un ai a ydych chi’n credu, pan fyddwn yn symud ymlaen i edrych ar yr adeg pan gaiff caniatâd cynllunio ei roi, bod yn rhaid iddyn nhw gael rhywfaint o risiau lluosog, fel bod gwahanol ffyrdd o fynd i mewn ac allan, fel y gwelwyd tystiolaeth y byddai hyn mae’n debyg yn gam cadarnhaol ymlaen gan yr arbenigwyr a alwyd i’r sefyllfa ofnadwy yma. Byddwn hefyd yn gofyn bod safon y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio yn cael eu harchwilio o ddifrif, gan fod peth anghytuno am hynny ar hyn o bryd. Mae'n amlwg, beth bynnag yw’r anghydfod, fod safon y deunyddiau o bosib mewn gwirionedd yn cydymffurfio â'r canllawiau presennol a ddefnyddiwyd, ond mae'n ymddangos yn bosib nad oedd y canllawiau presennol yn ddigon llym.
Y peth arall y byddwn yn gofyn i chi ei ystyried, Ysgrifennydd y Cabinet: rydym ni i gyd yn gwybod bod asiantaethau gosod yn chwarae rhan bwysig pan fo pobl yn chwilio am le i fyw yn y ddinas, boed hynny'n fyfyrwyr neu yn bobl eraill. Fe hoffwn i awgrymu bod asiantau gosod hefyd yn sicrhau rhai tystysgrifau diogelwch tân gan y landlordiaid tai amlbreswyl fel y gall y bobl hynny sy’n symud i’r tai hynny deimlo o leiaf yn hyderus bod yr archwiliadau hynny wedi eu gwneud.