Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch i Ann Jones am ei chyfraniad unwaith eto, a, llongyfarchiadau, mae’n debyg—derbyniodd yr Aelod wobr yr wythnos diwethaf, gwobr ryngwladol, yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth y gofynnodd hi amdani mewn dadl Aelodau unigol. Fel cyn-ddiffoddwr tân, welais i erioed dân mor ffyrnig â hwnnw a welais i yn nhân Tŵr Grenfell. Aeth rhywbeth mawr o’i le yn y lle hwnnw, ac rwy’n talu teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r gwirfoddolwyr a’r aelodau o'r teulu a geisiodd achub unigolion yn y gymuned honno. Mae’n siŵr ei fod yn ddigwyddiad trasig a fydd yn bwrw cysgod dros y cymunedau hynny am flynyddoedd lawer i ddod.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi'r mater o bwysigrwydd y ddeddfwriaeth, y cam dewr rwy'n credu i ni ei gymryd o ran y lobïo a gawsom ni o ganlyniad i’r cyflwyniad. Ond rydw i, yn yr un modd â’r Aelod, yn meddwl ein bod hi’n iawn gwneud hynny bryd hynny, ac rydym ni’n iawn i barhau â'r rhaglen honno yn y dyfodol.