Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Gall pawb, fwy neu lai, gytuno bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gam o bwys enfawr i Gymru a'r DU yn ei chyfanrwydd, ac mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Mae'r UE y byddwn yn ei gadael yn llawer mwy o faint, a mwy cymhleth, na'r Farchnad Gyffredin, y gwnaethom ymuno â hi flynyddoedd yn ôl, a dyna’n union pam y mae gadael yn gam hyd yn oed yn fwy nag oedd ymuno. Felly, mae yna nifer o heriau. Maent wedi dod i’r golwg yn gliriach ers canlyniad yr etholiad cyffredinol, ac mae hyn, yn fy marn i, yn ei gwneud yn anochel y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ail-lunio yn radical ei hymagwedd at y mater mwyaf hanfodol hwn, ac, os caf ddweud, symud yn agosach at y safbwynt cytbwys a chydlynol a nodwyd ym mhapur gwyn ar y cyd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’.
Wrth gwrs, rwy’n croesawu'r ffaith bod y cyfarfod cyntaf rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ddoe wedi mynd yn dda, ond dim ond y cam cyntaf yw hwn ar daith hir a chymhleth. Bydd yr Aelodau yn glir, i Lywodraeth Cymru, mai sicrhau swyddi a ffyniant economaidd ein cenedl sydd ar frig ein hagenda ar gyfer Brexit. Nid yw hynny wedi newid ac ni fydd yn newid. Ond heddiw hoffwn ganolbwyntio ar oblygiadau gadael yr UE i ddatganoli, ac i lywodraethu'r DU yn y dyfodol.
Llywydd, yn gyntaf oll, gan gydnabod canlyniad refferendwm y llynedd, dewch inni hefyd ein hatgoffa ein hunain bod datganoli ei hun wedi digwydd o ganlyniad i ddau refferendwm yma yn 1997 ac eto yn 2011: yn yr ail o'r rhain, pleidleisiodd dwy ran o dair o bleidleiswyr o blaid pwerau dros ddeddfwriaeth sylfaenol i’r Cynulliad.
Rwy’n gobeithio y gallwn gytuno ar draws y Siambr hon bod datganoli, fel y'i cymeradwywyd yn y refferenda hynny, yn cynrychioli ewyllys cadarn pobl Cymru ac nad yw'n rhywbeth i Lywodraeth y DU ei drin yn ysgafn, ddim mwy nag y gallai anwybyddu canlyniad refferendwm yr UE. Rydym yn gwrthod yn bendant honiad Llywodraeth y DU yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ganddi cyn yr etholiad bod datganoli mewn unrhyw ystyr yn dibynnu ar aelodaeth y DU o'r UE. I'r gwrthwyneb, mae'r galw am ddatganoli yn uchelgais a fynegwyd yn rhydd gan bobl Cymru a dim ond nodwedd ymarferol o'n trefniadau oedd y ffaith ein bod yn aelod o'r UE ar yr adeg pan ddechreuodd datganoli, yn yr ystyr honno. Y dasg nawr, felly, yw cydnabod grym y gwahanol refferenda drwy ddod o hyd i drefniadau newydd ar gyfer llywodraethu'r DU sy'n rhoi effaith ymarferol i Brexit gan ystyried yn llawn bod datganoli’n barhaol yng nghyfansoddiad y DU.
Mae'r ddogfen ger ein bron heddiw, 'Brexit a Datganoli', yn adeiladu ar syniadau a gyflwynwyd gennym gyntaf yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, a gyhoeddwyd ar y cyd gyda Phlaid Cymru yn ôl ym mis Ionawr, a hon yw'r gyntaf mewn cyfres a fydd yn archwilio materion allweddol sy'n codi o Brexit. Mae yna lawer i’w ystyried a’i drafod a dyna pam yr ydym yn anelu at ysgogi trafodaeth yma yn y Cynulliad a thu hwnt.
Bydd gadael yr UE yn creu heriau llywodraethu newydd yma. Nid ydym yn gwybod yn sicr eto pa mor bell, os o gwbl, y byddwn yn parhau i gysoni rhwydweithiau rheoleiddiol y DU â rhai'r UE ar ôl Brexit, nac a fyddwn yn parhau i fod mewn undeb tollau gyda'r UE. Ond mae'n sicr y bydd angen cydlynu polisïau, sydd wedi digwydd cyn hyn ym Mrwsel, yn y wlad hon, o leiaf i ryw raddau.
Rydym yn hapus i gydnabod, er enghraifft, yr angen, wrth arfer ein pwerau ni, i weithio gyda'r gweinyddiaethau eraill i ddatblygu fframweithiau sy’n rhwymo ledled y DU mewn nifer o feysydd sydd wedi'u datganoli i atal ffrithiant rhag mynd i mewn i’n marchnad fewnol ni yn y DU. Ni fyddai pedair cyfundrefn iechyd anifeiliaid hollol wahanol ac anghydnaws, er enghraifft, yn amlwg o fudd i neb. Yn yr un modd, bydd gennym ddiddordeb clir Cymreig yn rhai o gymwyseddau’r DU.
Felly, bydd angen ffyrdd newydd a gwell i’r gwahanol Lywodraethau weithio gyda'i gilydd. Ond, yn syml, nid yw peirianwaith ymgynghorol presennol Cydbwyllgor y Gweinidogion yn addas i’r dasg newydd mewn llaw. Y ffordd iawn o reoli'r busnes hwn yw ag offer rhynglywodraethol newydd ac wedi’u hadnewyddu. Mae'n rhaid i'r pedair Llywodraeth eistedd i drafod a chytuno ar fframweithiau’r DU sy’n rhwymo mewn meysydd datganoledig lle mae angen y rhain, neu yn y tymor byr mae angen i bob un gytuno, o'n gwirfodd, i beidio â gwneud dim newidiadau i'r fframweithiau presennol sy'n deillio o’r UE, os dyna sydd ei angen.
Dylai'r un offer hwyluso trafodaeth a chytundeb ar bolisïau heb eu datganoli y bydd gennym ddiddordeb amlwg ynddynt, fel cymorth gwladwriaethol ac, yn enwedig os ydym y tu allan i undeb tollau gyda'r UE, masnach ryngwladol. Mae ein papur yn cynnig cyngor Gweinidogion ar gyfer y DU, mewn modd tebyg i fersiwn yr UE. Os yw'n bosibl i 28 o lywodraethau wneud penderfyniadau mewn meysydd cyffredin, yn sicr dylai fod yn bosibl i'r pedair Llywodraeth yma yn y DU wneud hynny.
Nid ymgais i gynyddu pwerau'r Llywodraeth neu'r Cynulliad hwn yw hyn. Unwaith eto, roedd Papur Gwyn Llywodraeth flaenorol y DU yn rhoi argraff gwbl gamarweiniol o’r gwaith o ddatblygu fframweithiau ar lefel yr UE sy'n berthnasol i bolisïau datganoledig, megis y polisi amaethyddol cyffredin neu bolisïau amgylcheddol, mai Llywodraeth y DU yn unig oedd yn penderfynu ar safbwynt y DU. Yn syml, nid yw hynny’n wir.
I'r gwrthwyneb, mae’n ofynnol i Lywodraeth y DU, yn unol â’r memorandwm dealltwriaeth a ddiweddarwyd ac a gadarnhawyd gan y Siambr hon yn 2013, ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a datblygu safbwynt y DU sy'n adlewyrchu cytundeb rhwng y pedair gweinyddiaeth. Byddai'n eironig, yn y DU lle’r ydym, fel y nodwyd, wedi cymryd rheolaeth yn ôl gan Frwsel, pe bai gan y sefydliadau datganoledig lai, nid mwy, o ddylanwad dros y fframweithiau yr ydym yn gweithredu ynddynt.
Os yw Llywodraeth y DU yn agored i ddatblygu offer sy'n galluogi'r pedair Llywodraeth i fwrw ymlaen â busnes cyffredin mewn ffordd gydweithredol, bydd Llywodraeth Cymru yn bartner parod iddynt. Ond dewch imi fod yn glir, os nad ydynt yn gwneud hynny, os ydynt yn dymuno gosod fframweithiau neu ddeddfu yn San Steffan i roi cyfyngiadau newydd ar bwerau a chymhwysedd y Cynulliad hwn, byddwn yn eu gwrthwynebu bob cam o'r ffordd, gan ddefnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni. Fel yr wyf wedi’i ysgrifennu at y Prif Weinidog, does dim angen y frwydr hon arni nawr, o bob adeg.
Dewch imi ailadrodd: hoffem weld deddfwriaeth yn San Steffan, boed hynny y Bil diddymu mawr neu gywerth, sy’n llwyddo i gyflawni nodau Llywodraeth y DU—darparu parhad a sicrwydd deddfwriaethol a sicrhau, ar y diwrnod cyntaf ar ôl inni adael yr UE, bod ein hamgylchedd rheoleiddio yn union yr un fath ag un yr UE. Dyna ein huchelgais cyntaf.
Ond mae angen deddfwriaeth o’r fath arnom, i barchu datganoli ac i sbarduno'r cydweithio yr ydym yn gobeithio y bydd yn hwyluso dyfodol adeiladol ar y cyd. Os bydd yn methu â gwneud hyn, os bydd yn sathru ar ddatganoli, yna, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni ymateb yn rymus ac yn negyddol, ac rydym eisoes yn y broses o ddatblygu ein hopsiynau ar gyfer y posibilrwydd hwn. Un o brif gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, ac yn wir y Cynulliad hwn, yw cynnal y setliad datganoli y pleidleisiodd ein pobl amdano. Gobeithio y caiff y neges honno ei chlywed yn glir a’i nodi yn Whitehall.
Rydym hefyd yn meddwl mai dyma’r amser iawn i gael confensiwn am ddyfodol y Deyrnas Unedig. Mae'n syniad yr wyf wedi’i ganfasio ad nauseam o’r blaen, fel y mae pobl eraill, ond mae'n fater mwy brys yn awr. Mae gadael yr UE yn gam mawr sy'n mynnu ymateb mawr gartref. Mae'n naturiol yn y sefyllfa hon i feddwl o'r newydd am y math o wlad a’r math o undeb yr hoffem fod yn y tymor hir. Dylai'r confensiwn gynnwys pob llais, pob plaid wleidyddol, cymdeithas sifil a phob rhan o'r DU. Ac fel yr wyf wedi’i ddweud sawl gwaith, mae gan Lywodraeth Cymru ddigon o syniadau ond dim monopoli arnynt.
Dewch imi fod yn glir, felly, Llywydd: rwy'n gadarnhaol am ein hundeb. Rwyf am i'r DU fod yn llewyrchus, yn ddeinamig ac wedi’i llywodraethu’n dda. Rwy’n dymuno i'r perthnasoedd rhynglywodraethol rhwng y pedair gweinyddiaeth hyrwyddo'r egni y dylai ein hundeb ei ddangos. Wrth weithredu yn enw pleidleiswyr Cymru, rydym yn haeddu rhywbeth mwy na pherthynas drafodaethol amharod sy’n seiliedig ar y mymryn lleiaf o ymgynghori dail ffigys. Mae angen i bob gweinyddiaeth barchu cyfreithlondeb gwleidyddol a mandad y lleill wrth gychwyn y ddadl hon. Drwy drafod a chydweithredu, gall syniadau da ddatblygu'n syniadau gwell, ac mae pawb yn ennill. Mae Teyrnas Unedig effeithiol yn helpu pawb ac nid yw’n brifo neb.
Mae'n wir dweud, Llywydd, bod y DU yn parhau i fod yn rhanedig iawn. Y ffordd o wella’r rhaniadau hynny yw drwy barch a gweithio drwy broblemau gyda'n gilydd—ceisio gweld safbwynt pobl eraill. Cyfrinachedd, diffyg ymgynghori, gosod dictadau o'r canol—wnaiff y rhain ddim byd i adeiladu'r DU aeddfed, ddeinamig, amlweddog sy'n wynebu tuag allan y gallwn fod. Bwriad y papur yr ydym wedi’i gyhoeddi yw cyfrannu at y syniadau sydd eu hangen nawr i ymateb i'r her honno, ac fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad.