Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 20 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud, cyn yr etholiad cyffredinol, nad oedd y syniad o bartneriaeth gyfartal rhwng pedair Llywodraeth yng ngeirfa Llywodraeth y DU. Roeddent yn eu gweld eu hunain yn uwch na’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, hyd yn oed mewn meysydd a oedd wedi'u datganoli. Mae'r iaith wedi newid. Nid wyf yn siŵr a yw’r awydd, o ran beth i'w wneud yn ystod y trafodaethau Brexit, wedi newid o reidrwydd. Mae angen i dri pheth fod yn eu lle cyn i’r DU adael yr UE. Y cyntaf yw bod yn rhaid i'r Cyngor Gweinidogion eisoes fod yn weithredol oherwydd mae’n rhaid bod y strwythur i benderfynu beth sy'n digwydd i bwerau datganoledig pan fyddant yn dychwelyd yn ei le cyn i’r pwerau hynny ddychwelyd. Ni fyddai'n ddigon da inni weld Brexit ac yna sefydlu Cyngor Gweinidogion. Yn ail, mae angen sefydlu cyfres o reolau a fyddai'n rheoli marchnad sengl fewnol y DU. A bod yn ddoeth, mae'n debyg mai'r peth gorau yw cadw rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE fel y maent hyd nes y gellir datblygu cyfres o reolau. Yn drydydd, ac yn bwysicaf oll, mae angen, fel y bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn ei ddweud o'r blaen, llys annibynnol i blismona rheolau'r farchnad. Ar hyn o bryd, mae proses datrys anghydfod yn bodoli, ond mae'r anghydfodau’n cael eu datrys, yn y pen draw, gan Drysorlys y DU. Felly, os ydym mewn anghydfod â Thrysorlys y DU, Trysorlys y DU sy'n datrys yr anghydfod, ac ni all hynny fod yn realistig nac yn briodol—wel, nid yw'n briodol nawr, ond yn sicr ni all fod yn briodol yn y dyfodol. Er mwyn i unrhyw farchnad sengl lwyddo, os oes rheolau yn y farchnad sengl honno, mae’n rhaid i bawb sy'n gysylltiedig yn y farchnad honno fod yn ffyddiog bod y rheolau’n cael eu dehongli’n ddiduedd, yn ôl pob tebyg gan lys masnach. Byddai’n hawdd gwneud hynny drwy ddweud yn syml, 'Gadewch i’r Goruchaf Lys ei wneud'.
O ran yr Alban, nid yw'n glir beth fydd strategaeth yr Alban yn y dyfodol. Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud, yn y gorffennol, bod yr Alban wedi tueddu i fod o’r farn, 'Wel, rydym yn cytuno â'r hyn yr ydych yn ei ddweud, ond mae ein cyfeiriad teithio ni’n wahanol.' Nid wyf yn siŵr a yw hynny yr un mor glir ar ôl yr etholiad cyffredinol.
O ran Iwerddon, mae gennym gysylltiadau dwyochrog ag Iwerddon ond mae Iwerddon mewn sefyllfa anodd o ran y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn yr ystyr bod Gweriniaeth Iwerddon, yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn rhan o’r parti trafod arall—mae'n rhan o'r UE, felly mae'n hynod lletchwith i Weriniaeth Iwerddon gynnig barn yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig oherwydd ei bod yn rhan o farn gyfunol yr UE. Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ddefnyddiol iawn i weinyddiaethau Iwerddon oherwydd mae’n rhoi cyfle iddynt i gyfarfod ag awdurdodaethau mwy, ac mae ganddynt gŵyn benodol sef, os yw'r DU yn gadael yr undeb tollau, y byddan nhw hefyd, heb i neb ofyn iddynt. Felly, o'u safbwynt nhw, maent mewn sefyllfa annymunol. Rwy'n meddwl, ymhen amser, cyn gynted â bod Brexit wedi ei ddatrys a’r Weriniaeth yn teimlo bod ganddi efallai ychydig yn fwy o ryddid, efallai, nag sydd ganddi ar hyn o bryd o ran negodi, yna efallai y bydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn dechrau tyfu. Mae'n rhaid dweud, yn hanesyddol, nad yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig y mae penderfyniadau wedi cael eu gwneud; mae wedi tueddu i fod yn fan lle ceir trafodaeth gyffredinol, rhai cytundebau dwyochrog, ond nid yw wedi bod yn gorff arbennig o rymus. Yn y mwy na saith mlynedd erbyn hyn ers imi fod yn Brif Weinidog, nid yw Prif Weinidog y DU wedi bod yn bresennol unwaith yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sy'n dangos ichi, a dweud y gwir, faint o flaenoriaeth y mae’r DU yn ei rhoi i'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, er bod Taoiseach Iwerddon wedi bod yno bob amser.
O ran rhai o'r materion a gododd, mater Iwerddon, unwaith eto, soniodd amdano yng nghyd-destun y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Mae hynny, fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, yn berthnasol i ni yng Nghymru. Os caiff ffin forol rhwng Cymru ac Iwerddon ei hystyried yn anoddach na'r ffin rhwng y gogledd a'r de yn Iwerddon, bydd goblygiadau masnachol inni. Mae saith deg y cant o'r fasnach rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon yn mynd drwy porthladdoedd Cymru. Mae unrhyw beth sy'n ymyrryd â hynny yn amlwg yn ddrwg i Gymru, ac yn ddrwg i swyddi.
Yn olaf, gofynnodd am y Bil parhad. Mae'n rhywbeth yr ydym yn dal i’w ystyried. Mae wedi gwneud yr achos o’i blaid—rwyf wedi gwrando'n ofalus arno ac mae'n gwneud achos cryf o’i blaid. A yw'r sefyllfa wedi newid ers yr etholiad, dydyn ni ddim yn gwybod, ond dydw i ddim yn meddwl y gallwn gymryd dim byd yn ganiataol. Felly, gallaf ei sicrhau bod y Bil parhad nawr yn cael ei ystyried gan gyfreithwyr.