Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 20 Mehefin 2017.
Yn gyntaf oll, i ateb fy ffrind yr Aelod dros Ogwr: nid yn unig yr wyf yn credu bod yr hyn sydd yn y papur hwn yn gyraeddadwy, ond mae'n angenrheidiol os yw'r DU yn mynd i ddangos ei hyblygrwydd er mwyn iddi ffynnu yn y dyfodol. A yw'n golygu, er enghraifft, ein bod yn ail-archwilio, ymhen amser, cysyniadau fel sofraniaeth seneddol? Ydy. Rydym yn gwybod bod rhannu sofraniaeth yn digwydd mewn gwledydd eraill, fel Canada. A yw mor radical nes ei fod yn ansefydlogi gwlad? Nac ydy, yn amlwg, oherwydd rydym yn gwybod nad yw hynny wedi digwydd yng Nghanada.
O ran y dewis arall, nid yw Llywodraeth y DU wedi cynnig dewis arall hyd yma. I mi, byddai'r cyngor Gweinidogion yn esblygiad naturiol o'r Cydbwyllgor Gweinidogion. Nid yw'r Cydbwyllgor Gweinidogion yn gwneud dim penderfyniadau. Nid oes ganddo fecanweithiau i wneud penderfyniadau. Wrth inni adael yr UE, mae angen corff gwneud penderfyniadau yn ei le sy'n cynrychioli’r pedair Llywodraeth. Felly, byddai'r Cydbwyllgor Gweinidogion yn esblygu’n gyngor Gweinidogion beth bynnag. Felly, mae’r strwythur yno’n barod. Mae'n fater syml o sicrhau bod gan y corff fwy o ddannedd. Ar hyn o bryd, a dweud y gwir yn onest, yn aml mae'n lle o drafodaethau llawn ac agored, a gaf i ddweud, ond nid yw wir yn arwain at ddim byd. Mae'n drueni mawr oherwydd rwy’n credu bod ganddo botensial fel cyngor o Weinidogion.
A oes modd gwireddu’r nodau hyn? Rwy'n credu, pe bai’r canlyniad wedi bod yn wahanol ac wedi rhoi mwyafrif i Lywodraeth bresennol y DU, mai’r ateb fyddai ‘na yn ôl pob tebyg’, ond mae pethau wedi newid, fel y gwyddoch, ac mae'n golygu ei bod yn hynod o bwysig nawr bod lleisiau eraill y tu hwnt i'r rhai sydd o blaid y math o Brexit, neu’r math o setliad cyfansoddiadol, yr oedd y Prif Weinidog yn ei ffafrio yn cael eu clywed. Ni wnaf esgus wrthyf fy hun nad oes rhai pobl yn Llywodraeth y DU, ac yn y blaid sy’n llywodraethu, sy'n meddwl bod datganoli yn gamgymeriad ac a fyddai’n barod i gymryd y cyfle i ddadwneud datganoli fel ag y mae, heb ystyried y mandad democrataidd sy'n sail iddo. Felly, weithiau, mae'n rhaid dangos y ffon, os gallaf ei roi felly, oherwydd yr unig ddewis arall yw addasu'r cymwyseddau datganoledig, nid dim ond ein rhai ni, ond rhai’r Albanwyr a Gogledd Iwerddon yn ogystal, heb ganiatâd y sefydliad hwn na phobl Cymru. Mae hwn yn fater hynod ddifrifol, ac mae'n iawn i ni roi i lawr ar gofnod beth fyddai ein safbwynt pe bai cam radical yn ôl o'r fath yn cael ei gymryd. Wrth gwrs, byddwn yn gwrthsefyll hynny mewn unrhyw ffordd y gallwn. Wrth gwrs, os yw Llywodraeth y DU yn gosod rheolau cymorth gwladwriaethol, byddwn yn gwrthwynebu hynny hefyd. Pam y byddem yn teimlo bod gennym berchnogaeth ohono pe bai’n cael ei osod arnom? Byddai’n llawer mwy aeddfed—a dweud y gwir—ac yn llawer callach sefydlu’r mecanwaith yr wyf wedi cyfeirio ato, lle y gallwn eistedd i lawr a chytuno ar ddull cyffredin lle mae gan bawb ymdeimlad o berchnogaeth. Mae hynny’n llawer mwy tebygol o weithio na gosod systemau neu fframweithiau ar lywodraethau datganoledig mewn meysydd datganoledig heb eu caniatâd.