Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 20 Mehefin 2017.
Mae’n rhaid datrys y pethau hyn ar sail cydraddoldeb. Nid wyf yn meddwl ei bod yn iawn y dylai fod gwahaniaeth yn natur y ffin waeth lle y mae’r ffin mewn gwirionedd. Ni ellir datrys mater yr ardal deithio gyffredin oni bai eich bod yn rheoli’r ffin, oherwydd fel arall mae'n hollol bosibl i bobl, ar ôl iddynt gyrraedd Iwerddon o ble bynnag y maent yn y byd, groesi i mewn i'r DU. Mae problemau yno, o bosibl, yn cynnwys masnachu mewn pobl os nad ydym ni’n ofalus, oherwydd mae’r ffin honno—os oes gennych chi basport UE, gallwch fynd i mewn i Iwerddon a mynd i mewn i'r DU heb ddim archwiliadau o gwbl. Os ydych chi’n mynd i mewn i Iwerddon, yna i bob diben rydych chi yn y DU. Mae'r rhain yn faterion na chawsant eu hystyried yn briodol ar adeg refferendwm Brexit. Nid ydynt wedi cael eu hystyried yn briodol yn awr. Does neb am weld ffin galed. Dydw i ddim yn meddwl bod neb yn argymell hynny, ond does neb eto wedi dod o hyd i unrhyw syniad o sut y gellir osgoi’r ffin galed honno. Mae ffin galed yno’n creu goblygiadau sy'n sylweddol ac na fyddai neb am eu gweld.
Nid wyf yn credu y gallwn fod yn optimistaidd am y bont tir os oes dwy set o archwiliadau tollwyr ar waith. Os ydych yn weithredwr llwythi Gwyddelig a’ch bod yn cael cynnig dewis rhwng mynd i mewn i Gaergybi gydag archwiliadau tollwyr, a mynd i Dover a chiwio, gyda'r asiantaeth ffiniau ynghyd â’r archwiliadau tollwyr, mae hynny'n mynd yn anneniadol o’i gymharu â'r daith fferi, er enghraifft, rhwng Rosslare a Cherbourg. Nawr, mae’n rhaid i’r pethau hyn gael eu hystyried yn ofalus o ran economeg, ond o ran yr oedi posibl a fyddai’n digwydd, wel, beth fyddai eich dewis chi? Gallu symud yn ddi-dor o Iwerddon i Ffrainc, neu symud drwy ddwy set o reolaethau tollau i Ffrainc drwy'r DU? Mae'r rhain yn faterion sydd heb eu datrys eto. Yn fy marn i, mae llawer iawn o optimistiaeth anghywir am yr hyn sy'n digwydd yn Iwerddon. Gan fod pawb yn cytuno y dylai rhywbeth ddigwydd, nid yw hynny'n golygu y bydd yn digwydd. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl yn deall na fydd dim rheolaeth dros ffin y DU. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Mae'n freuddwyd gwrach, oherwydd mae rheoli’r ffin yn awgrymu rheolaethau ffiniau ar y ffin. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Os yw pobl yn barod i dderbyn hynny, mae’n rhaid i’r DU dderbyn y bydd ganddi ffin agored â’r UE yn Iwerddon, ac mae mwy o bosibiliadau o ran yr hyn a allai fod yn bosibl o safbwynt masnach. Ond yr hyn sy'n hollol amlwg yw na allwch ddal i ddefnyddio'r llinell, 'Byddwn yn rheoli ein ffiniau' pan ydych yn gwybod nad yw hynny'n wir. Nid wyf yn golygu yr Aelod yn benodol, ac fe wnaf hynny’n gliriach: ni all neb ddweud y gallwn reoli ein ffiniau os yw’r ffin yn mynd i fod yn agored. Mae’n gwbl amhosibl gwneud hynny, a gorau po gyntaf y gallwn roi’r gorau i esgus y gallwn wneud hynny, o ran y trafodaethau.