Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 20 Mehefin 2017.
Dirprwy Lywydd, yn gynharach eleni gwnes i ddatganiad i'r Cynulliad yn cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn, yn ‘Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer adeiladu system addysg ôl-orfodol o'r radd flaenaf i Gymru’. Gwnaeth yr adroddiad hwnnw argymhellion pwysig ar gyfer diwygio'r system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol—o hyn ymlaen byddaf yn ei alw'n PCET—yng Nghymru. Y ddau argymhelliad cynradd, y mae Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn, oedd y dylem ni ddatblygu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y system PCET ac y dylid cael corff hyd braich newydd i fod yr unig awdurdod rheoleiddio, cyllido a goruchwylio ar gyfer y system ôl-orfodol.
Roeddwn i’n falch iawn o’r gefnogaeth drawsbleidiol a gafwyd ym mis Ionawr i’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn adroddiad yr Athro Hazelkorn, ac rwyf heddiw’n falch o gyhoeddi ‘Public Good and a Prosperous Wales’, ein Papur Gwyn, sy'n nodi ein cynigion ar gyfer diwygio'r system PCET, sy'n cynnwys addysg bellach ac addysg uwch, ymchwil ac arloesedd, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned, ac sy'n ceisio barn rhanddeiliaid ar y ffordd ymlaen.
Wrth wraidd y Papur Gwyn mae ein cynigion ar gyfer corff newydd—comisiwn Cymru ar gyfer addysg trydyddol ac ymchwil—a fyddai'n disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn darparu goruchwyliaeth, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer y sector PCET cyfan. Mae'r model hwn yn tynnu ar arfer gorau o systemau trydyddol ac economïau llwyddiannus o bob rhan o’r byd. Rydym ni’n cynnig yn y Papur Gwyn y byddai swyddogaethau'r comisiwn yn cynnwys: cynllunio strategol ar gyfer y ddarpariaeth o addysg a sgiliau ar draws PCET; cyllido; asesu a gwella ansawdd; rheoli perfformiad a risg ledled y system; goruchwylio a chydgysylltu gwariant ymchwil ac arloesedd Llywodraeth Cymru; a darparu newid sylweddol yn y data sydd ar gael, gan gynnwys mesur cynnydd addysgol, amcanion a deilliannau ar gyfer dysgwyr.
Un pwyslais allweddol i’r comisiwn fyddai gwarchod buddiannau dysgwyr, gan sicrhau bod llwybrau galwedigaethol ac academaidd yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal, a helpu i gyflwyno sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn economi sy'n gynyddol gystadleuol. Drwy ei weithgareddau cynllunio a chyllido strategol, byddai'r comisiwn hefyd yn gyfrifol am gyfochri PCET yn agosach ag anghenion cyflogwyr, gan helpu i adeiladu economi gryfach yn y dyfodol.
Rydym ni’n nodi yn y Papur Gwyn dri model posibl ar gyfer rheoli'r cysylltiad rhwng y comisiwn a darparwyr addysg a hyfforddiant, yn seiliedig ar yr egwyddor graidd o gofrestru. Y tri model yw: (1) model cofrestru darparwr; (2) model cytuno ar ddeilliannau; a (3) model compactau rhanbarthol. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar bob un o'r rhain.
Mae ymchwil ac arloesedd yn hanfodol i lwyddiant ein prifysgolion a'n heconomi yn y dyfodol. Byddai'r comisiwn yn gyfrifol am gydgysylltu ymchwil ac ariannu capasiti ar gyfer ymchwil ôl-raddedig mewn ffordd fwy strategol a deinamig. Cynigir y byddai pwyllgor statudol y comisiwn, a elwid yn 'ymchwil ac arloesedd yng Nghymru’, yn arwain ar hyn. Byddai hyn yn diogelu a hyrwyddo buddiannau Cymru yng nghyd-destun newidiadau Llywodraeth y DU, sy'n debygol, yn fy marn i, o gymylu'r gwahaniaeth rhwng buddiannau y DU a rhai Lloegr.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig dull a 'wnaed yng Nghymru' ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol fel ei bod yn haws i bobl ddysgu a chaffael sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd. Mae ein bywydau a'n heconomi yn mynd drwy newid technolegol enfawr—cyfeiriwyd at hynny'n gynharach yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithle sydd wedi’i weddnewid yn golygu nad oes lle i gyffredinedd erbyn hyn. Nid yw gwneud dim neu gynnal y status quo, yn fy marn i, yn ddewis sydd ar gael i ni.
Mae hefyd angen i ni annog a chefnogi y gwaith ymchwil ac arloesedd cynyddol a wneir mewn cwmnïau a sefydliadau eraill. Mae angen i ni adeiladu ar ein cryfderau— ac mae gennym gryfderau—ond eu cyfochri ag anghenion a dyheadau busnesau a'r gymuned ehangach pan fo hynny'n bosibl ac yn briodol. Drwy wneud hynny, rydym ni’n gobeithio denu rhagor o arian ymchwil o fuddsoddiadau yn y DU dros y pum mlynedd nesaf. Bydd mynd i'r cyfeiriad hwn yn gynyddol bwysig os ydym ni am reoli'r broses o adael yr UE gyda chyn lleied â phosibl o darfu ar ein sylfaen ymchwil a gwyddoniaeth. Y comisiwn newydd fyddai’n gyfrifol am oruchwylio’r newidiadau hyn a datblygu gweithgareddau ymchwil, arloesedd, a menter mewn prifysgolion, colegau a gyda darparwyr eraill.
Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o'r cynnydd a wnaed o ran ymgorffori cynrychiolaeth myfyrwyr i strwythurau llywodraethu sefydliadau yng Nghymru. Ond mae mwy i'w wneud eto. Byddwn yn disgwyl gweld cyfranogiad myfyrwyr, yn y comisiwn ac mewn sefydliadau unigol, yn cael eu hymestyn ymhellach yn ein system newydd. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau o gynnwys y chweched dosbarth o fewn cylch gorchwyl y comisiwn newydd. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd y gallai'r comisiwn gael ei sefydlu heb y chweched dosbarth yn ei gylch gwaith i ddechrau ac y gallai deddfwriaeth ganiatáu iddynt gael eu dwyn o fewn ei gwmpas yn ddiweddarach. Mae'r papur yn gofyn am safbwyntiau ar yr ymagwedd hon a sefyllfa ehangach y chweched dosbarth.
Rwy'n credu y bydd y cynigion yn y Papur Gwyn yn ein galluogi i godi safonau, cefnogi dysgwyr yng Nghymru i gyflawni eu potensial llawn, ni waeth beth yw eu cefndir a'u hamgylchiadau, ac yn gwneud ein system PCET un o'r goreuon yn y byd. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod y bydd yn cymryd amser i weithredu'r newidiadau hyn. Bydd yr ymgynghori ffurfiol yn para tan ddiwedd mis Hydref. Dilynir hyn gan ymgynghoriad technegol manylach tuag at ddiwedd y flwyddyn. A bydd diwygio deddfwriaethol hefyd yn ofynnol ar gyfer y newidiadau pellgyrhaeddol hyn. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am aelodau newydd ar gyfer bwrdd CCAUC, sydd â phrofiad o ystod ehangach o feysydd, gan gynnwys busnes, er mwyn helpu i arwain a chefnogi'r symudiad i system newydd.
Dirprwy Lywydd, rwy’n cydnabod bod angen gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid er mwyn sicrhau y bydd y diwygiadau uchelgeisiol hyn yn llwyddiannus. Felly, os ydych chi’n ddysgwr neu, yn wir, yn ddarpar ddysgwr, yn weithiwr proffesiynol ym maes addysg neu hyfforddiant, yn ddarparwr addysg, yn ymchwilydd, neu’n berson busnes sydd â barn gref am sgiliau eich gweithlu, yna rydym ni eisiau clywed gennych. Rydym ni angen eich syniadau am y ffordd orau o sicrhau y gall y system weithio'n dda, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru yr hydref hwn. Byddaf hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar wahân ar gyfer pobl ifanc. Rwy’n gobeithio y gallaf ddibynnu ar Aelodau o bob plaid yn y Cynulliad i annog ymgysylltiad yn yr ymarferion ymgynghori hyn, fel y gallwn ni gael y syniadau gorau i’w defnyddio ar gyfer datblygu system PCET a fydd yn diwallu anghenion dysgwyr, cymunedau a busnesau Cymru am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.