Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i roi briffiau i Aelodau o'r gwrthbleidiau ar ei chynlluniau. Rwy’n falch iawn o weld bod argymhellion yr Athro Hazelkorn wedi cael eu cefnogi a'u derbyn, ac fel yr ydym ni wedi'i wneud yn y gorffennol, rwy’n credu ei fod yn bwysig ein bod ni’n symud fel cenedl gyda'n gilydd ar y mater hwn oherwydd bod angen i ni ei gael yn gwbl iawn. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod i’n credu'n gryf mai addysg sy’n gosod y seiliau i’r ffordd y bydd Cymru yn ymateb i heriau newydd yn y dyfodol, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni hefyd yn cydnabod bod addysg yn daith gydol oes ac y bydd gyrfaoedd a dyheadau personol pobl yn newid, o bosibl, dros amser, gyda phobl yn symud o un yrfa i'r llall, ac mae addysg yn gwbl allweddol o ran helpu i wneud hynny ddigwydd.
Mae gennyf i ychydig o gwestiynau, yn amlwg, ar y datganiad y mae hi wedi’i wneud y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, o ran swyddogaethau’r comisiwn, rwy'n falch iawn o weld rhywfaint o eglurder ynglŷn â’r swyddogaethau yr ydych chi eisiau i'r comisiwn eu cyflawni, ond rwy’n sylwi bod un o'r swyddogaethau hynny yn cynnwys asesu a gwella ansawdd. Rwy’n meddwl tybed i ba raddau y gallai rhai o'r swyddogaethau hyn fod yn gorgyffwrdd â rhai o swyddogaethau'r cyrff statudol eraill sydd eisoes gennym ni yng Nghymru. Felly, o ran ansawdd yr addysg, wrth gwrs, mae gennym ni Gymwysterau Cymru, mae gennym ni sefydliadau fel Estyn a fydd hefyd â rhyw swyddogaeth i'w chyflawni, yn enwedig mewn sefydliadau addysg bellach. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni wedi cael eglurder ar hyn, wrth symud ymlaen, fel nad oes gennym ormod o fysedd yn y brywes, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn ystyried ein system addysg—ein system addysg ôl-orfodol.
Nodaf hefyd fod y comisiwn yn mynd i gael y cyfrifoldeb hwn o ran buddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd, ac rwy’n meddwl ei bod yn iawn ei fod yn cyflawni’r swyddogaeth honno, oherwydd bod pob un ohonom yn gwybod bod llawer o resymau masnachol pam y dylai pobl fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd, ac weithiau mae ymchwil ac arloesedd a fydd angen buddsoddiad sy'n gorfod dod o'r sector cyhoeddus, neu y bydd angen i’r sector cyhoeddus gyfrannu ato. Felly, mae'n hollol iawn i’r comisiwn fod â’r swyddogaeth hon. Ond yn amlwg, yn enwedig gyda’r cyfleoedd masnachol hynny, bydd yn bwysig sicrhau bod gan bobl sydd ag arbenigedd masnachol a phrofiad digonol ran i’w chwarae yn y comisiwn newydd hwnnw, a nodaf eich bod wedi cyfeirio at yr angen i bobl fusnes, os mynnwch, gymryd rhan yn CCAUC yn y cyfamser, ond byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod beth fydd natur y bwrdd hwnnw—y comisiwn newydd hwn, a pha ymgysylltiad yr ydych chi’n disgwyl iddo ei gael gyda'r sector masnachol, yn enwedig o ran yr ymchwil a’r arloesedd hynny.
Rydych chi’n cyfeirio at y tri model arfaethedig a amlinellir yn y Papur Gwyn, ac rwy’n credu eu bod yn dri model diddorol: y model cofrestru a darparwr, y model cytuno ar ddeilliannau, a'r model compactau rhanbarthol. Ond ni welaf unrhyw reswm, mewn gwirionedd, pam mae angen iddyn nhw fod yn dri model ar wahân. Rwy’n credu, yn bersonol, y dylai fod elfennau o bob un o'r tri o fewn cylch gwaith y comisiwn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, yn amlwg, i ddarparwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach a hyfforddwyr eraill fod wedi eu cofrestru gyda'r comisiwn newydd. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol y dylai fod rhyw gytundeb ar ddeilliannau ynghlwm â’r buddsoddiad cyhoeddus y maen nhw’n ei dderbyn, ac y gellid eu dwyn i gyfrif ynglŷn â hynny. Ac rwy’n credu hefyd, yn enwedig o ran y sector Addysg Bellach, y dylai fod compactau rhanbarthol yn ymwneud a’r hyn yr ydych yn disgwyl iddyn nhw ei gyflawni ar lawr gwlad. Felly, nid wyf yn credu y dylai fod yn sefyllfa naill ai/neu o ran y dewisiadau hynny. Mewn gwirioned, rwy’n credu y dylid cynnwys elfennau o bob un o’r tri model, o ran sut y mae'r comisiwn yn gweithredu, wrth symud ymlaen. Byddwn yn gwerthfawrogi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech ddweud wrthym a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chithau hefyd wedi ei ystyried, neu a ydych chi wedi ymrwymo i’r dull hwn o naill ai/neu a nodir yn y Papur Gwyn.
Nodais eich sylwadau o ran ymagwedd y DU tuag at ymchwil ac arloesedd hefyd. Mae’n ymddangos eich bod yn awgrymu y byddai model Lloegr yn cael ei orfodi, os mynnwch, ar weddill y DU, wrth symud ymlaen. Nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth y byddai hynny'n digwydd o gwbl, mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ei fod yn gwbl briodol bod gennym weithiau fodelau y DU ar gyfer ymchwil ac arloesedd, fel y gallai ein prifysgolion yng Nghymru, sydd ag arbenigedd mewn pethau fel peirianneg a gwyddorau meddygol, godi i’r brig a derbyn buddsoddiad, mewn gwirionedd, ar lefel y DU gyfan. Felly, nid wyf yn siŵr pam yr ydych yn or-ofalus am hynny. Rwy'n credu ei bod yn briodol bod gennym rai mecanweithiau ar draws y DU o ran buddsoddi yn ein gwaith ymchwil, a byddwn i’n gwerthfawrogi pe gallech fy nghyfeirio at ryw dystiolaeth i gadarnhau'r pryderon sydd gennych ynglŷn â llais ymchwil Cymru, os mynnwch chi, yn cael ei foddi gan yr ymagwedd newydd hon a allai gael ei gweithredu ar lefel y DU.
Hefyd o ran llais y myfyrwyr, rwy'n falch iawn o’ch clywed yn cyfeirio at y ffaith fod yn rhaid gwrando ar lais myfyrwyr, ac yn amlwg, bu rhywfaint o gynnydd, o ran cynrychiolaeth myfyrwyr mewn strwythurau llywodraethu yn y blynyddoedd diweddar, ac rwy’n cydnabod hynny. Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig i nodi hefyd y ceir gwahanol leisiau o fewn sefydliadau cyrff y myfyrwyr sydd hefyd angen eu clywed. Mae llais dysgwyr sy'n oedolion a llais dysgwyr rhan-amser yn aml iawn yn cael eu boddi gan lais dysgwyr llawn amser. Tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni y bydd yn rhaid i’r comisiwn newydd wrando ar leisiau amrywiol y gymuned myfyrwyr, fel y gellir cael pethau'n iawn ar gyfer pob dysgwr, nid dim ond ar gyfer y rhai sy’n llawn amser.
Yn olaf, os caf i droi at y chweched dosbarth, rwy’n ofalus iawn ynghylch y corff hwn yn cael unrhyw gylch gwaith a chyfrifoldeb am addysg y chweched dosbarth; Rwy’n credu ei bod yn well gadael hynny i’r awdurdodau addysg lleol hynny. Yn amlwg, mae rhai rhannau o Gymru lle y mae trefniadau ar gyfer addysg drydyddol wedi’u sefydlu rhwng awdurdodau lleol a darparwyr addysg bellach mewn ffordd wahanol i'r model chweched dosbarth traddodiadol mewn ysgol, ond pam y dylem ni ymyrryd â rhywbeth sy'n gweithio i nifer o ddysgwyr ac sy’n sicrhau’r dewis hwnnw i lawer o ddysgwyr ledled Cymru? Nid wyf yn credu bod hynny yn iawn o gwbl—nid wyf yn credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hyn—y dylem ni symud ymlaen a gwneud y chweched dosbarth yn rhan o gylch gorchwyl y comisiwn newydd.