Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn, Simon. A gaf i ddechrau lle y gwnaethoch chi ddechrau sef gydag erthygl 'The Guardian'? Rwy’n hynod siomedig yn y pennawd camarweiniol ac yn yr anghywirdebau ffeithiol sydd ym mhob man yn y darn penodol hwn a elwir yn ddarn o newyddiaduriaeth. Mae'n siomedig iawn ac yn gamddisgrifiad llwyr o'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned benodol honno ac, yn wir, uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n destun gofid mawr i mi, a gallaf eich sicrhau, pryd bynnag y bydd materion ynghylch yr iaith yn codi, boed hynny o ran Prifysgol Warwick a sut y maen nhw’n ystyried Cymraeg Safon Uwch, neu erthyglau fel hyn, yna byddwn ni’n ceisio cywiro a rhoi'r argraff gywir o'r hyn sy'n digwydd yn ein system addysg ddwyieithog.
Os caf symud ymlaen at y pwyntiau pwysig am y datganiad—ie, bwriad y Llywodraeth yn bendant yw cael mwy o arian ymchwil i mewn i Gymru. Mae gennym rai sêr anhygoel. Mae ein rhaglen Seren, er enghraifft, yn rhoi enghraifft dda iawn o'r hyn y gellir ei gyflawni, ond mae angen i ni wneud yn well. Mae hynny'n arbennig o bwysig o ystyried canlyniadau Brexit yr UE i’r sector addysg uwch. Yn amlwg, felly mae hynny’n—. Rwy'n hapus iawn i ailddatgan mai dyna yw nod cyffredinol y Llywodraeth.
O ran cyfochri, rwy’n credu bod Diamond yn cyd-fynd â'r cynigion a nodir yma ac nid oes gennyf unrhyw fwriad i newid y terfynau amser o ran rhoi adroddiad Diamond ar waith. Mae'n bwysig ein bod ni’n gweld bod hwnnw ac adolygiad Reid yn ogystal â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar weithredu Hazelkorn yn ymblethu â’i gilydd.
O ran y—ni allaf ddarllen fy ysgrifen fy hun—. O ran llywodraethu’r chweched dosbarth—. Mae’r mater yn ymwneud â’r chweched dosbarth yn un diddorol iawn, o ran y mater o lywodraethu, oherwydd, mewn gwirionedd, mae Simon yn sôn am swyddogaeth awdurdodau addysg lleol —mewn rhai ffyrdd mae’r chweched dosbarth wedi bod yn blentyn i neb, gan nad ydyn nhw’n cael eu hariannu mewn gwirionedd gan yr awdurdodau addysg lleol. Maen nhw’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol. Felly, mewn ffordd, mae llywodraeth leol bron wedi troi ei chefn arnyn nhw. Hefyd, nid ydynt wedi bod yn destun arolygiad Estyn. Felly, pan fo Estyn wedi mynd i mewn i ysgolion—hyd yn oed pan fo gan yr ysgol honno chweched dosbarth—nid oedd dyletswydd ar Estyn i adrodd ar y ddarpariaeth o fewn y chweched dosbarth hwnnw. Nid yw hynny’n dderbyniol i mi. Os ydym ni’n dymuno gweld cynnydd a chodi safonau ym mhob agwedd ar ein system addysg, mae’n rhaid i hynny gynnwys y chweched dosbarth. Felly, rwy'n falch iawn o ddweud y bydd Estyn bellach yn ystyried darpariaeth y chweched dosbarth yn yr ysgolion hynny lle y ceir chweched dosbarth, oherwydd fy mod i’n credu, mewn rhai ffyrdd, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae nhw wedi dod yn blentyn i neb ac efallai eu bod wedi syrthio drwy'r rhwyd o ran sicrhau mewn gwirionedd eu bod yn gwneud gwaith da ar ran y myfyrwyr sydd ynddynt.
Y sicrwydd cyllid—dyna beth na allaf ei ddarllen: sicrwydd cyllid a chylch cyllido tair blynedd. Rwy'n cydnabod y byddai sefydliadau weithiau yn gwneud penderfyniadau gwahanol pe byddai ganddyn nhw olwg mwy hirdymor ar y cyllid a fyddai ar gael iddyn nhw. Mewn rhai ffyrdd, gall y rheini fod yn benderfyniadau strategol hirdymor gwell. Rwy’n ceisio, gan drafod â’m cyd-Aelod Cabinet dros gyllid, i wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i roi sicrwydd o gyllid pan fo hynny’n bosibl, ym mhob agwedd ar y system addysg. Mae hynny wedi bod yn eithaf anodd oherwydd, ceir sefyllfaoedd weithiau sydd y tu allan i'n rheolaeth ni o ran pryd y mae cyllidebau a datganiadau’r hydref yn cael eu cyhoeddi yn Llundain. Yn amlwg, mae yna ansicrwydd difrifol ar hyn o bryd. Roeddwn i wedi gobeithio, yn dilyn canlyniad yr etholiad a rhai o ynganiadau’r Prif Weinidog, na fyddai cymaint o gyni. Ond, os bydd rhywun yn gwrando ar araith Mansion House y Canghellor y bore yma, os oedd unrhyw un ohonom ag unrhyw gred bod hynny ar fin digwydd, rwy’n credu bod hynny wedi ei chwalu gan yr hyn yr oedd gan Philip Hammond i’w ddweud y bore yma. Rwy’n derbyn eich pwynt, a byddwn yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud i ddarparu’r golwg hirdymor hwnnw ar gyfer sefydliadau, gan fy mod yn cydnabod pa mor werthfawr yw hynny iddyn nhw.
Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ystyried codi oedran addysg orfodol y tu hwnt i 16 oed. O ran sicrhau ansawdd, bydd y corff hwn yn chwarae rhan allweddol. Yn wahanol i rai o'r newidiadau yr ydym wedi eu gweld yn Lloegr, er enghraifft, rydym yn awyddus iawn i barhau i gynnwys y Cyfrin Gyngor, er enghraifft, wrth sicrhau ansawdd, statws dyfarnu graddau a’r teitl prifysgol. Mae'r pethau hyn yn bwysig iawn i mi ac rwy'n mynd i achub ar y cyfle hwn i wneud yn siŵr eu bod yn y lle y byddem ni’n dymuno iddyn nhw fod a gwneud newidiadau, os bydd angen, er mwyn darparu’r sicrwydd hwnnw—i fyfyrwyr, myfyrwyr rhyngwladol, a darpar fuddsoddwyr mewn ymchwil ac arloesedd—bod gennym yr ansawdd hwnnw yn sail i'n sector addysg uwch.