Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y diwygiadau i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae gennyf rai cwestiynau. Rwy’n sylweddoli efallai nad oes gennych ateb pendant ar hyn o bryd i rai ohonyn nhw, ac os yw hynny'n wir, hoffwn gael eich sicrhad y gofynnir i randdeiliaid am eu barn ar y pwyntiau hyn.
Nodaf y bwriad i greu comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil newydd i Gymru, a fydd yn disodli'r cyngor cyllido addysg uwch presennol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym beth yw'r costau cymharol ar gyfer y cyngor presennol a'r comisiwn newydd, ac a fydd y comisiwn yn arwain at ostyngiad neu gynnydd yn y gost gyffredinol o oruchwylio addysg ôl-orfodol? Pa mor fawr fydd y comisiwn fwy neu lai ac i bwy y bydd yn atebol? Os nad yw’r comisiwn yn cyflawni ei amcanion, pwy fydd yn gyfrifol am hynny?
Yn y blynyddoedd diweddar gwelwyd hyfforddiant galwedigaethol—a oedd yn arfer cael ei alw yn ‘cael gafael ar grefft’—yn gostwng mewn statws tra bod cymwysterau academaidd wedi eu trin bron fel yr ateb i bopeth. Mae hyn wedi arwain at genedlaethau o bobl ifanc dawnus sydd bron wedi cael eu taflu ar y domen neu eu hannog i astudio ar gyfer cyrsiau na fyddant o gymorth iddynt gyflawni eu potensial oherwydd nad yw eu sgiliau a'u galluoedd mewn meysydd academaidd traddodiadol. Er bod angen cael graddedigion academaidd, crefftwyr sy'n adeiladu ein hysgolion, ysbytai, tai, a phopeth arall a, hebddyn nhw, nid oes gennym unrhyw adeiladau, unrhyw ynni, unrhyw ffyrdd—dim byd.
Mae angen mynd i'r afael â’r diffyg o ran crefftwyr cymwysedig yng Nghymru gan sicrhau bod Cymru yn hyfforddi ei rhai ei hun. Rwyf felly'n croesawu’n llwyr amcan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod hyfforddiant galwedigaethol ac academaidd yn cael eu hystyried â’r un gwerth yn ein system addysg. Mewn amgylchedd gwaith lle y mae'n llai ac yn llai tebygol y bydd rhywun yn gadael yr ysgol ac yna treulio ei fywyd gwaith naill ai yn gweithio yn yr un swydd neu i'r un cyflogwr, mae'n hanfodol bod gan bobl yn cael y cyfle i ailhyfforddi neu uwchsgilio, felly eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith newydd. Os gall Ysgrifennydd y Cabinet wella mynediad at hyfforddiant ac addysg ar gyfer pobl sy'n awyddus i wella neu ddiweddaru eu sgiliau presennol neu ddysgu rhai newydd, byddaf yn ei chymeradwyo.
Hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud darpariaeth i roi cyngor ac arweiniad i fusnesau yng Nghymru sy'n ymgymryd ag ymchwil a datblygiad er mwyn eu cynorthwyo i fanteisio ar y patentau y maent yn eu creu, yn ogystal â chynorthwyo prifysgolion a cholegau i wella ansawdd eu ceisiadau am gyllid ymchwil. Rwy’n nodi ei bod yn bosibl y bydd y ddarpariaeth chweched dosbarth yn cael ei chwmpasu gan y comisiwn newydd, ond efallai na fydd y ddarpariaeth chweched dosbarth honno yn cael ei chynnwys yn yr ymgynghoriad. Rwy’n deall eich rhesymau am hynny, ond, os yw’r chweched dosbarth yn mynd i gael ei gwmpasu gan y comisiwn newydd, pryd y bydd y cynnig hwnnw yn cael ei gyflwyno mewn ymgynghoriad, os nad yw'n cael ei gynnwys yn yr un presennol? Mae angen i bobl ifanc allu dewis yr amgylchedd chweched dosbarth iawn iddynt hwy. Bydd rhai yn dymuno mynd i chweched dosbarth mewn ysgol, bydd eraill yn awyddus i fynd i chweched dosbarth mewn coleg. A all Ysgrifennydd y Cabinet ein sicrhau ni y bydd pobl ifanc yn parhau i gael y dewis o astudio mewn coleg chweched dosbarth neu yn y chweched dosbarth mewn ysgol?
O ran yr ymgynghoriad ei hun, sut ydych chi wedi rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad a sut ydych chi’n sicrhau bod y rhanddeiliaid cywir wedi cael gwybod amdano? Rwy'n croesawu'r ymgynghoriad ar y comisiwn a'r diwygiadau sy'n cael eu hystyried a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Diolch.