Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn i Michelle am ei chwestiynau. Mae’r costau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r ymgynghoriad technegol, a fydd yn digwydd yn nes ymlaen eleni. Bydd y comisiwn yn atebol i Weinidogion Cymru. Mae parch cyfartal yn fater hollbwysig i mi. Un o'r rhesymau dros gael un corff unigol yn trefnu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac â goruchwyliaeth strategol drostynt, yw cyflawni’r parch cyfartal hwnnw a chydnabod, fel yr ydych chi’n dweud yn gwbl gywir, bod y dyddiau o gael un swydd am oes ac aros mewn un man pan fyddwch yn gadael yr ysgol wedi dod i ben. Dyna un o'r rhesymau pam y mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn trefnu addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny, er enghraifft, yn ei chynllun prentisiaeth i bob oedran y mae yn ei ddatblygu dros gyfnod y Llywodraeth Cymru benodol hon.
Mae Michelle yn gofyn a yw mater y chweched dosbarth wedi’i gynnwys yn y ddogfen ymgynghori a phryd yr ydym ni’n mynd i ymgynghori arno. Wel, mae yn y ddogfen ymgynghori. Rwy'n gwerthfawrogi—. Rwy'n pryderu nad yw'r Aelod wedi cael copi o'r Papur Gwyn efallai. Rwy'n credu ei fod wedi cael ei anfon ar e-bost at bob Aelod. Rwyf i yn sicr wedi ei weld yn fy mewnflwch AC fy hun ac mae'n amlwg iawn yn y ddogfen—mae’r cwestiynau ynghylch y chweched dosbarth yn yr ymgynghoriad ac mae'n gwestiwn dilys yr ydym yn ei ofyn i bobl.
Mae’r Aelod hefyd yn gofyn sut yr ydym ni’n rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad. Wel, mae hyn yn rhan o'r rheswm pam yr ydym yn gwneud datganiad llafar heddiw—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn dilyn y datganiad a wnes i yn gynharach heddiw. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid yn parhau tan y bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ym mis Hydref, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad i bobl ifanc yn benodol, oherwydd y mae gwneud pethau'n iawn ar gyfer y dysgwr wrth wraidd hyn ac mae angen iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori hwn hefyd.