Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 20 Mehefin 2017.
Byddwn yn gobeithio bod gwefan CCAUC yn gywir ac yn rhoi disgrifiad cywir o'u harferion cyflogaeth, ond fe wnaf ofyn eto i'r prif weithredwr, a chadarnhau hynny i chi. O ran maint y comisiwn, rwyf bob amser yn credu'n gryf yn yr egwyddor bod ffurf yn dilyn swyddogaeth, ac ar hyn o bryd, wrth i ni ymgynghori ar ffurf y comisiwn, nid ydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa i ddweud yn union sut y bydd yn edrych, oherwydd bydd hynny'n dibynnu ar sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Dyna pam yr ydym yn cynnal ymgynghoriad technegol ar ddiwedd y broses Papur Gwyn hon er mwyn ymgynghori ar y materion mwy technegol, manwl hynny a’r manylion yr ydych chi’n gofyn amdanynt yn ddiweddarach. Ond ar hyn o bryd, yr hyn sy'n bwysig i ni yw ein bod yn deall, a’n bod yn cytuno ar swyddogaethau’r corff hwn ac yna ein bod yn bwrw ymlaen ar ba mor effeithiol y bydd yn cael ei staffio. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, o dan y cynigion hyn, yw y bydd CCAUC yn peidio â bod a byddwn yn gweithio'n agos gyda CCAUC ac aelodau newydd y bwrdd, a chanddynt amrywiaeth ehangach o brofiadau, gobeithio, i bontio’n ddi-dor o un sefydliad i'r llall.