Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr am y datganiad ac am yr ymrwymiadau sydd ynddo. Rwyf yn gwerthfawrogi ein bod yn sôn yn bennaf am newid strwythurol, ond pwrpas y newid strwythurol yw gwella cyfleoedd ar gyfer dysgu, a dysgu sydd yn barod ar gyfer Cymru a fydd yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth fyd-eang, os mynnwch chi, yn ogystal â hybu yr economi leol. Os yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg i gael unrhyw effaith, ymhellach ymlaen bydd gennym fusnesau sy'n chwilio am sgiliau Cymraeg—ni fyddwn yn dweud rhuglder o reidrwydd—ond tu hwnt i hynny, sgiliau ieithyddol eraill hefyd, yn enwedig ar ôl Brexit. Er mai Saesneg yw iaith ryngwladol busnes, mae'n bendant o gymorth i bobl yng Nghymru os ydynt yn gallu siarad mwy nag un iaith pan eu bod yn ceisio cymryd rhan mewn masnach ryngwladol. A allwch chi ddweud wrthyf i, felly, a fydd yr ymgynghoriad yn arbennig, a gwaith y comisiwn yn y dyfodol yn ystyried pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu medrus mewn addysg anstatudol? Diolch.