Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 20 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn, Suzy, am y cyfraniad yna. Fel y gwyddoch, mae cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr, disgyblion ysgol a’r rhai hynny sydd mewn AB ac AU i gaffael sgiliau iaith yn y Gymraeg a bod yn gallu defnyddio’r sgiliau hynny yn eu dull o astudio yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi. O ran addysg bellach, rydym ni ar hyn o bryd yn gofyn i Delyth Evans wneud darn o waith ynghylch pa un a ddylai swyddogaeth a chylch gwaith y Coleg Cymraeg ymestyn i'r sector addysg bellach, ac rydym yn disgwyl cael yr adroddiad hwnnw cyn toriad yr haf. Yn amlwg, bydd unrhyw sefydliad sy'n gyfrifol am gynllunio darpariaeth AU ac AB a dysgu seiliedig ar waith yn ein cenedl yn gorfod ystyried sut y byddant yn darparu hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.
O ran ieithoedd ehangach, nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddweud beth fydd swyddogaethau a chyfrifoldebau y sefydliad hwn yn hynny o beth. Ond mae cynllunio cymwysterau a chynllunio a chomisiynu ystod o gymwysterau a chyrsiau iaith, boed hynny mewn ieithoedd tramor modern, yn y Gymraeg, neu yn y gallu i fynegi eich hun yn hyderus ac yn glir—efallai yn well nag yr ydw i'n ei wneud ar hyn o bryd—yn amlwg yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried o ran comisiynu cyrsiau a fydd ar gael. Ac rwy’n cydnabod bod y gallu i fynegi eich hun a chyfathrebu'n effeithiol yn bwysig, ac wrth gwrs dyna pam yr ydym ni wedi cadw arholiad llafar yn rhan o'n TGAU Saesneg iaith, er bod hynny wedi ei ddiddymu yn Lloegr.