Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 20 Mehefin 2017.
Wel, roedd Simon Thomas yn gresynu ar ddechrau ei sylwadau nad oedd llawer o gwestiynau ar ôl i'w gofyn ac erbyn hyn mae llai fyth hyd yn oed. Ond hoffwn ymuno â phawb arall wrth groesawu'r datganiad hwn, gan longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd am ei pharodrwydd i ymgysylltu â ffermwyr a gwrando ar bob barn, ac am hyblygrwydd ei dull hi o weithredu. Rwyf i o’r farn bod y ddogfen hon, o’i hystyried yn ei chyfanrwydd, yn gam sylweddol tuag at ddileu TB.
Yn ddiamau, bydd llawer o gwynion am rannau unigol y pecyn, ond rwy’n credu, yn ei gyfanrwydd, ei fod yn cynrychioli cynnydd mawr iawn yn wir, yn enwedig y penderfyniad anodd gwleidyddol—rwy’n cydnabod hynny o’r cychwyn cyntaf—o ystyried lladd moch daear, er bod hynny mewn modd cyfyngedig. Nid oes unrhyw unfrydedd ar werth hyn yn fy ngrŵp i fy hun hyd yn oed, felly rwy’n deall yr anawsterau y bu raid i Ysgrifennydd y Cabinet ymdopi â nhw ynglŷn â’r agwedd benodol honno ar y mater.
O ran y rhanbartholi, rwy'n credu bod hynny’n ddull synhwyrol, a bydd croeso iddo yn benodol, wrth gwrs, yn y gogledd-orllewin. Ac mae’r gymuned ffermio yn ofni, wrth gwrs,—yn y meysydd risg uchel yn arbennig—fod hyn yn mynd i’w staenio nhw, mewn ffordd, a chynyddu eu costau nhw a chael effaith andwyol ar brisiau. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud cymaint ag y gallwn i esbonio i'r cyhoedd, ac eraill sydd yn rhanddeiliaid â diddordeb yn hyn, nad yw hyn o reidrwydd yn rhywbeth sy'n gwneud y cig a chynnyrch fferm arall sy'n cael ei gynhyrchu yn yr ardaloedd hyn yn amhosibl ei werthu na’i fwyta. Credaf ei bod yn bwysig iawn i barhau â'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ei gyflawni, sef dwyn y diwydiant ffermio gyda ni mewn menter ar y cyd tuag at yr amcan yr ydym i gyd yn dymuno ei weld.
O ran y cap iawndal, clywais yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am—. A dweud y gwir, rwy'n credu mai’r ffigwr oedd 95 o anifeiliaid yn unig ynghlwm yn hyn o beth y llynedd, dros £5,000. Ond mae yna annhegwch penodol i rai unigolion, yn arbennig pan maen nhw wedi buddsoddi arian mawr yng ngeneteg anifeiliaid. Rwy'n falch o glywed y bydd hi'n parhau i adolygu hyn, ac os yw’n wir bod unigolion yn colli symiau mawr o arian, o ystyried natur fregus incwm ffermio, rwy’n credu y byddai'n dderbyniol iawn pe gellid ystyried hynny eto cyn gynted ag y bydd digon o wybodaeth i’w chael.
O ran swyddogaeth bywyd gwyllt, rwy’n nodi bod y ddogfen yn dweud y gall TB heintio pob anifail ac mae rhai yn cael eu hystyried gan arbenigwyr milfeddygol yn gronfeydd, a gall hynny arwain at y clefyd yn mynnu parhau. Wrth gwrs, mae hyn yn cynnwys moch daear yn enwedig. Gwyddom o arolwg diweddaraf Cymru 'mochyn daear wedi’i gael yn farw' fod cyfradd heintio o bron 7 y cant, sy'n llawer uwch na'r hyn a geir mewn gwartheg, ac mewn rhai ardaloedd yng Nghymru mae tua un o bob pum mochyn daear a brofwyd yn yr arolwg hwn yn dangos eu bod yn dioddef o'r clefyd. Credaf ei bod yn bwysig iawn y dylem ystyried hyn yn fater lles anifeiliaid i foch daear a bywyd gwyllt arall, yn ogystal â gwartheg. Mae angen esbonio bod TB yn glefyd ofnadwy i foch daear yn ogystal â gwartheg, ac mae materion eraill sy'n ymwneud â’r cynnydd mawr a sydyn yn niferoedd moch daear hefyd. Rydym yn derbyn bod angen difa ceirw. Nid oes llawer iawn o ddadlau am hynny. O ystyried nad oes gan foch daear unrhyw ysglyfaethwyr hysbys a bod cwymp mawr wedi bod yn niferoedd draenogod a phroblemau sylweddol gydag adar sy'n nythu ar y ddaear, mae rhesymau eraill dros reoli moch daear hefyd. Mae'r rhain yn faterion, yn fy marn i, y mae'n rhaid eu hwynebu os ydym am gael bioamrywiaeth wirinoeddol yng nghefn gwlad. Rwy'n gwybod nad yw hynny'n berthnasol yn uniongyrchol i'r datganiad arbennig hwn ond mae'n rhan bwysig, rwy’n credu, o’r ddadl i geisio cael y cyhoedd ar ein hochr ni gyda’r hyn sydd, rwy’n gwybod, yn fater anodd iawn.
Felly, rwy’n ailddweud yr hyn a ddywedais yn gynharach, nad wyf yn credu bod hyn yn newid cyfeiriad sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r broblem hon, ac rwy'n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am fynd i’r afael â hyn.