9. 8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:59 pm ar 20 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:59, 20 Mehefin 2017

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cyfnod pleidleisio, ac mae yna un cynnig i bleidleisio arno, y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i ddweud, fel sy’n ofynnol o dan Rheol Sefydlog 17.2D, ni chaniateir pasio’r cynnig yma oni bai fod o leiaf dwy rhan o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 41, Yn erbyn 12, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6337.

Rhif adran 366 NDM6337 - Cynnig i ddyrannu cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau plaid

Ie: 41 ASau

Na: 12 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:00, 20 Mehefin 2017

Cyn i ni symud at y ddadl Cyfnod 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), byddaf yn gohirio’r trafodion am 10 munud, ac fe gaiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailymgynnull. Byddwn i’n awgrymu bod, ac yn annog, Aelodau i ddychwelyd i’r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda. Felly, mae’r sesiwn wedi ei gohirio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:00.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 18:10, gyda’r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.