Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 21 Mehefin 2017.
Y cyfnod pleidleisio yw’r eitem nesaf ar ein hagenda ni, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. A’r bleidlais gyntaf yw’r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae’r cynnig wedi ei dderbyn.