11. 10. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:15, 21 Mehefin 2017

Y cyfnod pleidleisio yw’r eitem nesaf ar ein hagenda ni, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais. A’r bleidlais gyntaf yw’r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6336.

Rhif adran 372 NDM6336 - Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 34 ASau

Na: 16 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:16, 21 Mehefin 2017

Y bleidlais nesaf, felly, ar ddadl UKIP ar bolisi mewnfudo, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw David Rowlands a Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 45 yn erbyn. Ac felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 45, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6335.

Rhif adran 373 NDM6335 - Dadl UKIP: Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 5 ASau

Na: 45 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 21 Mehefin 2017

Gwelliant 1, felly, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 12, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6335.

Rhif adran 374 NDM6335 - Dadl UKIP: Gwelliant 1

Ie: 12 ASau

Na: 38 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 21 Mehefin 2017

Gwelliant 2: os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, fe wrthodwyd gwelliant 2.

Gwrthodwyd y gwelliant : O blaid 8, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6335.

Rhif adran 375 NDM6335 - Dadl UKIP: Gwelliant 2

Ie: 8 ASau

Na: 42 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:18, 21 Mehefin 2017

Pleidlais nawr ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6335.

Rhif adran 376 NDM6335 - Dadl UKIP: Gwelliant 3

Ie: 34 ASau

Na: 16 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:18, 21 Mehefin 2017

Galwaf, felly, i gloi, ar bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cynnig NDM6335 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy’n cydbwyso swyddi a’r economi â’r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;

2. Yn cefnogi’r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:

a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a

b) cynyddu’r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:18, 21 Mehefin 2017

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Ac felly, fe dderbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Derbyniwyd cynnig NDM6335 fel y’i diwygiwyd: O blaid 34, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6335 fel y’i diwygiwyd.

Rhif adran 377 NDM6335 - Dadl UKIP: Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 34 ASau

Na: 16 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw