2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lwyfannu rownd derfynol Pencampwriaeth UEFA a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar? OAQ(5)0187(EI)
Gwnaf. Roedd rownd derfynol Pencampwriaeth UEFA yn uchafbwynt ysblennydd i ddathliad pedwar diwrnod o bêl-droed yn ein prifddinas, ac roedd llygaid y byd ar Gaerdydd, ar yr hyn a oedd yn ymdrech ysblennydd gan Dîm Cymru, a gyflawnwyd gan dîm ardderchog o bob rhan o’r brifddinas.
Diolch am eich datganiad. Cafwyd rhai cwynion, yn anochel efallai, gan rai trigolion a masnachwyr, ond wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf ohonom yn derbyn y daw manteision hirdymor o ganlyniad i’r penderfyniad i gynnal y rownd derfynol. Tybed a allech dynnu sylw’n fyr at rai ohonynt.
Yn sicr. Mae’n eithaf amserol gan fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi bod yn gwrando ar Jason Mohammad yn rhoi araith yng ngogledd Cymru, lle bu’n siarad am ei falchder ar noswaith rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ei ddinas ef, dinas ei fagwraeth. Roedd yn un o fechgyn Elái mewn gwirionedd. A sylweddolais nad annog ffyniant economaidd oedd unig ddiben y digwyddiad, ond cynyddu balchder hefyd yn ein prifddinas ac yn ein cenedl. Rwy’n deall ac yn derbyn bod rhai busnesau yng Nghaerdydd, a rhai o drigolion Caerdydd, wedi cael eu cyfyngu o ran eu gallu i symud o gwmpas y ddinas ac o ran faint o bobl y gallent eu denu i’w hadeiladau a’u cyfleusterau. Fodd bynnag, amcangyfrifir bod yr effaith economaidd yn werth £45 miliwn i’r brifddinas-ranbarth. Mae llawer o brosiectau etifeddol wedi deillio o’r digwyddiad hwn.
A chredaf ei bod yn deg dweud ei fod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Yn y cyfnod yn arwain at y digwyddiad, mynegwyd pryderon ynglŷn â thrafnidiaeth, logisteg, diogelwch, cyfathrebu, ond fe wnaethom gyflawni, a chyflawni’n dda. A gobeithiaf bellach y gallwn adeiladu ar ddigwyddiad a oedd yn ddigynsail, neu’r digwyddiad chwaraeon mwyaf eleni mewn gwirionedd, yn unrhyw le yn y byd, drwy ddenu mwy o ddigwyddiadau o safon fyd-eang i Gymru a thrwy sicrhau ein bod yn dathlu’r hyn sy’n gwneud Cymru’n wych, sef ein cynhesrwydd a’n croeso.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn llwyddiant ysgubol, rownd derfynol cwpan UEFA yma yng Nghaerdydd, ond yn amlwg, daeth cyfres o ddigwyddiadau cyn hynny i Gaerdydd, er mwyn dangos yn amlwg y gallai Cymru, a Chaerdydd yn arbennig, gynnal digwyddiad mor enfawr. Un peth sydd wedi bod yn siomedig yw diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud cais am Gemau’r Gymanwlad yma yng Nghymru. A chan ein bod wedi profi y gallwn gynnal rhai o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf, os nad y mwyaf yn 2017, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ailystyried rhai o’r opsiynau a allai fod ar gael ar gyfer cais llwyddiannus gan Gymru i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol wrth inni symud ymlaen. Yn sicr, dyna fyddai pinacl dod â sawl cenedl i’r rhan hon o’r Deyrnas Unedig, a dangos pa mor wych yw ein gwlad a pha mor gymwys yw ein gwlad i gynnal y digwyddiadau mawr hyn.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond nodi hefyd nad diffyg uchelgais a arweiniodd at y penderfyniad i beidio â gwneud cais am gemau 2026? Diffyg adnoddau o ganlyniad i flwyddyn ar ôl blwyddyn o galedi a thoriadau i gyllidebau Llywodraeth Cymru a fu’n gyfrifol am hynny. Wedi dweud hynny, rwyf wedi bod yn glir iawn ein bod yn parhau i fod mewn sefyllfa lle byddem yn dymuno archwilio pob cyfle i wneud cais, nid yn unig ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, ond ar gyfer digwyddiadau mawr eraill. Rwyf wedi dweud yn gyhoeddus y byddai cyfle i Brydain wneud rhywbeth gwahanol iawn ar gyfer gemau 2022 pe bai Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad yn caniatáu i’r rheolau gael eu llacio fel y gellir cyflwyno cais amlwladol. Ar hyn o bryd, nid ymddengys y gellid llacio’r rheolau hynny, ond pe caent eu llacio, mae’n gwbl bosibl y gellid cynnal Gemau’r Gymanwlad ar draws y DU gyfan. Byddai hynny’n un opsiwn. Opsiwn arall yw gwneud cais am gemau yn y dyfodol—2030 neu wedyn. O ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda gemau 2022, mae’n llai tebygol bellach y bydd gemau 2026 yn cael eu cynnal yn y DU, sy’n gwneud 2030 yn bosibilrwydd.
Rydym eisoes wedi cychwyn adolygiad trylwyr o’r holl gyfleusterau chwaraeon a digwyddiadau mawr yng Nghymru, gyda’r bwriad o allu nodi pa fath o fuddsoddiad y byddai ei angen, ac yn lle, ar gyfer y cymunedau a fyddai hefyd yn ein galluogi i wneud cais yn y dyfodol am ddigwyddiad fel Gemau’r Gymanwlad. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth wneud ceisiadau a cheisio chwilio am gyfleoedd ar lwyfan byd-eang, fod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o’r angen i ddarparu enillion ar ein buddsoddiad, ac am y rheswm hwnnw, rydym yn ofalus iawn yn y Llywodraeth ein bod yn sicrhau ein bod yn gwneud ceisiadau am y digwyddiadau sy’n darparu’r manteision mwyaf i drethdalwyr Cymru ac i bobl Cymru.