Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, o 30 Mai eleni ymlaen, gall awdurdodau lleol gofrestru pridiant tir lleol i ddiogelu eu hunain wrth adennill costau a llog am atgyweiriadau brys i adeiladau rhestredig. Yn amlwg, rwy’n meddwl am Theatr y Palas yn Abertawe, sydd wedi elwa o hynny yn y gorffennol, ond ceir adeiladau eraill sydd mewn perygl yn etholaethau a rhanbarthau’r Aelodau eraill hefyd. Pan oedd y cynghorau’n pennu eu cyllidebau eleni, a gawsoch chi, neu a fuoch yn chwilio am unrhyw arwydd eu bod yn fwy parod bellach i fwrw ymlaen â gwaith atgyweirio brys, a’u bod yn hyderus y byddai’r pŵer newydd hwn yn helpu i sicrhau’r adenillion?