2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 21 Mehefin 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, o 30 Mai eleni ymlaen, gall awdurdodau lleol gofrestru pridiant tir lleol i ddiogelu eu hunain wrth adennill costau a llog am atgyweiriadau brys i adeiladau rhestredig. Yn amlwg, rwy’n meddwl am Theatr y Palas yn Abertawe, sydd wedi elwa o hynny yn y gorffennol, ond ceir adeiladau eraill sydd mewn perygl yn etholaethau a rhanbarthau’r Aelodau eraill hefyd. Pan oedd y cynghorau’n pennu eu cyllidebau eleni, a gawsoch chi, neu a fuoch yn chwilio am unrhyw arwydd eu bod yn fwy parod bellach i fwrw ymlaen â gwaith atgyweirio brys, a’u bod yn hyderus y byddai’r pŵer newydd hwn yn helpu i sicrhau’r adenillion?
Cynlluniwyd y pŵer hwn er mwyn galluogi awdurdodau lleol i wneud popeth yn eu gallu i ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol yn yr ardaloedd o Gymru y maent yn eu cynrychioli. Nid wyf wedi cael cyfle eto i weld a fu’n effeithiol yn ystod y cyfnod byr y mae wedi bod ar gael. Ond roeddem yn disgwyl, yn seiliedig ar yr ymgynghoriad a gawsom gyda’r rhanddeiliaid, yn enwedig gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod llywodraeth leol yn fodlon y byddai’r offerynnau hyn yn gwella eu sefyllfa o ran gallu gwarchod yr amgylchedd adeiledig.
Diolch am eich ateb, ac rwy’n gobeithio y gellir cyfiawnhau’r hyder hwnnw. Efallai, chwe mis yn ddiweddarach, y byddai’n werth gofyn a ydynt wedi penderfynu defnyddio’r pwerau hynny ar y sail eu bod ganddynt a’u bod yno ar gyfer eu diogelu.
Gan symud yn awr at y llyfrgell genedlaethol, yn amlwg, mae ei rôl yn ehangu ar hyn o bryd, wrth iddi ymgymryd ag archif y BBC a helpu’r Cynulliad hwn i ymgymryd â’r dasg enfawr o archifo ein gwaith ein hunain. Credaf hefyd fod ei chyrhaeddiad allanol yn llawer mwy amlwg nag yr arferai fod—mae’r gwasanaeth ar-lein a ddarperir ganddi yn cynyddu. Hoffwn dynnu sylw’r Aelodau’n fyr at y wefan newydd, sy’n darparu mynediad rhad ac am ddim at dros 450 o gylchgronau Cymreig a gyhoeddwyd ers 1735. Felly, os oes pum munud gennych heddiw, fe welwch fod hynny’n troi’n bum awr, felly byddwch yn ofalus.
Mae’r llyfrgell yn elwa, wrth gwrs, o fuddsoddiad cyhoeddus, ac rwy’n cydnabod yr arian ychwanegol y mae wedi’i gael yn ddiweddar yn y gyllideb ddiwethaf. Ond nid oes unrhyw fuddsoddiad nad oes amodau ynghlwm wrtho, ac rwy’n deall eich bod yn awyddus i’r llyfrgell ddenu mwy o ymwelwyr. A fyddech yn derbyn y byddai mwy o ymwelwyr ar-lein yn cyfrif tuag at gyfanswm cyffredinol yn hynny o beth, neu a ydych yn edrych ar ymwelwyr a ddaw drwy’r drws? Oherwydd, wrth inni fynd ar drywydd y cyllid newydd, ac efallai na fydd yn ymddangos yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, hoffem fod yn hollol sicr ynglŷn â’r rhesymau pam.
Mae’r Aelod yn codi pwynt da iawn mewn gwirionedd, gan mai un o gryfderau allweddol y llyfrgell genedlaethol yw lefel ardderchog y sgiliau digideiddio sydd mor amlwg yn y llyfrgell yn Aberystwyth. O ran nifer yr ymwelwyr, hoffwn weld cynnydd o ran ymwelwyr ar-lein ac ymwelwyr â’r llyfrgell ei hun. Mantais ymwelwyr ar-lein yw y gellir eu defnyddio i gynyddu’r incwm y gellir ei gynhyrchu drwy brynu archifau digidol. Mae hwn yn un o’r prif feysydd twf mewn gweithgareddau ar gyfer y llyfrgell genedlaethol.
O ran cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r llyfrgell ei hun, credaf fod y gwaith allgymorth, o ran addysg, yn cael effaith odidog ar ysgolion a cholegau a phrifysgolion, ond byddai o fudd pe bai rhagor o bobl yn ymweld â’r llyfrgell, nid yn unig am ei fod yn lle unigryw a godidog, ond hefyd am fod gweithgarwch masnachol llyfrgelloedd, drwy werthiant nwyddau a brynwyd, yn eithriadol o bwysig o ran y refeniw y maent yn ei godi.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb. Caf weld beth sy’n digwydd yr adeg hon y flwyddyn nesaf.
Yn olaf, mae Blwyddyn y Chwedlau, wrth gwrs, wedi sbarduno cryn ddiddordeb, gobeithio, yng Nghymru fel lleoliad ffilm a theledu. Rwyf eisoes yn ymwybodol o’u hanes blaenorol, felly nid wyf yn arbennig o awyddus i glywed am hynny, ond rwy’n awyddus i wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dyfodol y ddwy brif stiwdio ffilm yn fy rhanbarth.
Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol a dylem gymeradwyo’r arweinyddiaeth yn y sector. Mae’r sector yn tyfu’n gyflymach yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, ac mae hynny o ganlyniad i ffocws di-baid ar hyrwyddo Cymru a’r sgiliau o fewn y sector, yn benodol ar gyfer dramâu teledu. Yn y dyfodol, rydym yn edrych ar raglen enfawr o weithgarwch drwy Bad Wolf. Rydym yn edrych hefyd ar ddefnyddio rhai o’r cyfleusterau awyr agored ardderchog sydd gennym ledled Cymru fel lleoliadau ffilmio. O ran stiwdios eraill, deallwn fod cryn alw am ofod stiwdio, ond rydym yn canolbwyntio’n benodol ar hyn o bryd ar sicrhau bod y criwiau ar gael gennym i ateb y galw. Mae’r galw’n aruthrol ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym unigolion sydd â’r sgiliau i wneud yn siŵr fod modd cynhyrchu teledu a ffilm.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Llywydd. Gan barhau ar y thema gynharach ynglŷn â llwyfannu digwyddiadau, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’i gynnig ar gyfer adeiladu arena amlbwrpas gyda chapasiti, efallai, o 20,000, a fyddai’n cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau llai eu maint?
Credaf mai’r cyfleuster y cyfeiria’r Aelod ato yw arena arfaethedig Caerdydd. Nid cynnig gan Lywodraeth Cymru yw hwn. Credaf fod un o Aelodau’r gwrthbleidiau—nid o blaid yr Aelod—wedi bod yn creu helynt ynglŷn â’r cynnig a chan bwy y daw. Mewn gwirionedd, cynnig ydyw y mae cyngor Caerdydd yn ei ystyried ar hyn o bryd, ac maent yn archwilio potensial sawl opsiwn. Wrth i ni geisio cynnal mwy o ddigwyddiadau, wrth i ni geisio denu mwy o ddigwyddiadau busnes i Gymru, credaf fod arnom angen cyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Ac ni chredaf ei bod o fudd i’n cenedl fod gwleidyddion yn troi’r rhanbarthau yn erbyn ei gilydd, wrth siarad am ba gyfleusterau sydd eu hangen arnom.
Yn fy marn i, mae angen arena fawr yn y de, ac mae Caerdydd yn lle perffaith, a hithau’n brifddinas, ar gyfer arena. Ond yr un modd, rwy’n deall bod angen uwchraddio cyfleusterau ledled Cymru, ac am y rheswm hwnnw, cyfarfu fy swyddogion â swyddogion Clwb Pêl-droed Wrecsam yr wythnos diwethaf i drafod y Cae Ras. Maent wedi cyfarfod â nifer o sefydliadau diwylliannol a chwaraeon ledled Cymru er mwyn sicrhau bod gennym gyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Wel, rwy’n deall bod gennym arenâu yng Nghaerdydd sy’n dal hyd at oddeutu 80,000 o bobl, ond rydym yn siarad, dyweder, am ddigwyddiadau cerddorol mawr ac ati. A fyddai Llywodraeth Cymru yn agored i’r posibilrwydd o helpu i ariannu arena fawr ar gyfer y math hwn o beth, gan nad yw’n iawn fod gennym Gymry yn ninas Caerdydd, un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop, yn gorfod mynd i Birmingham neu Fanceinion neu Lundain er mwyn profi peth o’r adloniant gorau—adloniant cerddorol—sydd ar gael?
Mae gennym eisoes nifer helaeth o gyfleusterau yn y brifddinas, ac wrth gwrs, cyn bo hir bydd gennym y ganolfan gynadledda fwyaf a gorau yn ne-orllewin y DU, ond mae bwlch ar ôl yn y farchnad y gallai arena newydd fynd i’r afael ag ef a’i lenwi, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chyngor Caerdydd wrth iddynt graffu ar wahanol opsiynau, ac ymhen y rhawg, rwy’n siŵr y daw darlun cliriach i’r amlwg o ran yr hyn yr hoffai cyngor dinas Caerdydd ei gyflawni ar gyfer Caerdydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’n sefyllfa o ran penderfyniad ynghylch Cylchffordd Cymru? Dywedodd y Prif Weinidog, ar 6 Mehefin, ei fod yn disgwyl penderfyniad gan y Cabinet o fewn pythefnos—felly, erbyn ddoe. Os nad yw wedi bod yn bosibl hyd yma, a all roi dyddiad inni ar gyfer pa bryd y bydd y Cabinet yn cael y drafodaeth honno, ac a gawn barhau i ddisgwyl cyhoeddiad ynglŷn â’r penderfyniad hwnnw cyn diwedd y mis? A allai ddweud hefyd a yw wedi penderfynu a yw’n barod i rannu’r diwydrwydd dyladwy allanol a gyflawnwyd gan lefarwyr y gwrthbleidiau, fel y gofynnom? Bydd penderfyniad cadarnhaol, wrth gwrs, yn rhwymo gweinyddiaethau o wahanol liwiau gwleidyddol yn y dyfodol, o bosibl, ac felly byddai’n ymddangos y dylid cynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â’r prosiect hwn. Deallaf gan y cwmni na fyddai ganddynt unrhyw wrthwynebiad i hyn gael ei wneud ar sail cyfrinachedd masnachol.
Bydd y Cabinet yn gwneud y penderfyniad ddydd Mawrth nesaf, ac rwy’n bwriadu sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybod am y penderfyniad hwnnw cyn gynted â phosibl wedi hynny. O ran yr adroddiadau diwydrwydd dyladwy, nid un ohonynt sydd; mae yna sawl un. Mae hwn yn fater rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd: pa un a ellir cyhoeddi’r diwydrwydd dyladwy, nid yn unig ar gyfer yr Aelodau ond ar gyfer cynulleidfa ehangach. Mae’n rhywbeth yr hoffem ei drafod gyda’r datblygwyr eu hunain, wrth gwrs.
Rwy’n ddiolchgar am eich ateb. A allai Ysgrifennydd y Cabinet nodi’r meini prawf a fydd yn llywio ei argymhelliad terfynol i’r Cabinet? Deallaf fod ei ofyniad o warant o 50 y cant neu lai gan y Llywodraeth a dogfennau amodau buddsoddwr a enwir eisoes wedi ei fodloni. Mae’r diwydrwydd dyladwy allanol y cyfeiriasant ato wedi cwmpasu ystod eang o feysydd: effaith economaidd, prawf unigolyn addas a phriodol ac amryw o faterion eraill. Yn ôl pob tebyg, mae bellach wedi gweld y diwydrwydd dyladwy hwnnw. A all ddweud a yw wedi nodi unrhyw faterion o bwys sy’n achos pryder? A oes ganddo bellach ffigur a wiriwyd yn annibynnol ar gyfer creu swyddi, ac a all ddweud wrthym beth yw’r ffigur hwnnw? A yw’r prosiect wedi bod yn destun unrhyw adolygiad arall, yn allanol neu’n fewnol, nad yw wedi rhoi gwybod i ni yn ei gylch o’r blaen? Ac o ystyried ein bod wedi cael chwe blynedd o drafod ynglŷn â’r prosiect hwn, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd inni, pan fydd yn codi yr wythnos nesaf, yn hytrach na rhagor o oedi neu ohirio, gyda rhagor o newidiadau, o bosibl, ym meini prawf gwerthuso’r Llywodraeth, y byddwn yn cael penderfyniad terfynol a phendant mewn perthynas â’r prosiect hwn?
Credaf fod y Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir, wrth benderfynu ar Gylchffordd Cymru, fod yn rhaid i’r prosiect sefyll ar ei draed ei hun; mae’n rhaid iddo ddarparu ar gyfer pobl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd; ac mae’n rhaid iddo fodloni’r meini prawf a nodwyd gennym yr haf diwethaf, lle mae o leiaf 50 y cant o’r cyllid yn dod o’r sector preifat, a bod o leiaf 50 y cant o’r gwarantau, neu’r risg, yn cael ei ysgwyddo gan y sector preifat hefyd. Mae angen i ni ystyried y gwerth am arian, y swyddi sy’n debygol o gael eu creu, a hyfywedd a chynaliadwyedd y prosiect, nid yn unig yn ystod y gwaith adeiladu, ond am sawl degawd. Mae pob un o’r rheini’n cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn penderfyniad y Cabinet yr wythnos nesaf. Mae’r prosiect, fel y gŵyr yr Aelod, wedi esblygu sawl, sawl gwaith dros y pump i chwe blynedd diwethaf, ac er bod adolygiadau blaenorol wedi’u cynnal, a gwerthusiadau wedi’u cwblhau, byddent yn ymwneud â modelau busnes blaenorol.
Os cawn symud, yn olaf, at brosiect mawr arall, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r prosiect ffowndri a chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd a gyhoeddwyd fel rhan o fargen ddinesig dinas-ranbarth Caerdydd? Deallaf fod tîm y dinas-ranbarth yn cynnal trafodaethau gyda’ch tîm eiddo eich hun ynglŷn â chaffael yr adeilad pacio a phrofi ar hen safle LG, sydd wedi bod yn wag ers 1996. Nawr, mae’r prosiect hwn yn gysylltiedig, yn ôl ffynonellau yn y diwydiant, â chontract pwysig gydag IQE ar gyfer ei dechnoleg cell ceudod fertigol, a fydd yn rhan hanfodol o’r camera synhwyro 3D yn yr iPhone 8 newydd, ac mae ganddo botensial enfawr—potensial trawsnewidiol—ar gyfer economi Cymru. Dywedir wrthyf fod y ffaith fod y Llywodraeth wedi bod yn bargeinio a llusgo’i thraed dros delerau caffael yr adeilad gwag hwn wedi golygu bod y cwmni bellach wedi gorfod paratoi cynllun B, a fyddai’n cynnwys gweithgynhyrchu yn eu cyfleusterau yng Ngogledd Carolina, gan arwain, o bosibl, at golli miloedd o swyddi i economi Cymru. Y pedwerydd ar ddeg o Orffennaf—cyfarfod nesaf Cabinet dinas-ranbarth Caerdydd—yw’r terfyn amser pendant ar gyfer gwneud penderfyniad. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd inni ei fod yn derfyn amser na fyddwn yn ei fethu ar unrhyw gyfrif?
Dyma un o’r prosiectau pwysicaf ar fy nesg ar hyn o bryd. Mae’n gyfle enfawr, nid yn unig i Gasnewydd, nid i’r dinas-ranbarth, ond i Gymru gyfan. Mae’n cynrychioli ein symud, ein trawsnewid, i economi’r unfed ganrif ar hugain, lle bydd awtomeiddio, lle bydd roboteg, lle bydd technoleg gwybodaeth yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad ag IQE, ond rwyf finnau hefyd, yn bersonol, gyda golwg ar sicrhau bod y cyfle anhygoel hwn yn cael ei wireddu ar gyfer Casnewydd ac ar gyfer gweddill Cymru.