Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Mehefin 2017.
Mae’r Aelod yn codi pwynt da iawn mewn gwirionedd, gan mai un o gryfderau allweddol y llyfrgell genedlaethol yw lefel ardderchog y sgiliau digideiddio sydd mor amlwg yn y llyfrgell yn Aberystwyth. O ran nifer yr ymwelwyr, hoffwn weld cynnydd o ran ymwelwyr ar-lein ac ymwelwyr â’r llyfrgell ei hun. Mantais ymwelwyr ar-lein yw y gellir eu defnyddio i gynyddu’r incwm y gellir ei gynhyrchu drwy brynu archifau digidol. Mae hwn yn un o’r prif feysydd twf mewn gweithgareddau ar gyfer y llyfrgell genedlaethol.
O ran cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r llyfrgell ei hun, credaf fod y gwaith allgymorth, o ran addysg, yn cael effaith odidog ar ysgolion a cholegau a phrifysgolion, ond byddai o fudd pe bai rhagor o bobl yn ymweld â’r llyfrgell, nid yn unig am ei fod yn lle unigryw a godidog, ond hefyd am fod gweithgarwch masnachol llyfrgelloedd, drwy werthiant nwyddau a brynwyd, yn eithriadol o bwysig o ran y refeniw y maent yn ei godi.