Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 21 Mehefin 2017.
Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant ysgubol a dylem gymeradwyo’r arweinyddiaeth yn y sector. Mae’r sector yn tyfu’n gyflymach yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, ac mae hynny o ganlyniad i ffocws di-baid ar hyrwyddo Cymru a’r sgiliau o fewn y sector, yn benodol ar gyfer dramâu teledu. Yn y dyfodol, rydym yn edrych ar raglen enfawr o weithgarwch drwy Bad Wolf. Rydym yn edrych hefyd ar ddefnyddio rhai o’r cyfleusterau awyr agored ardderchog sydd gennym ledled Cymru fel lleoliadau ffilmio. O ran stiwdios eraill, deallwn fod cryn alw am ofod stiwdio, ond rydym yn canolbwyntio’n benodol ar hyn o bryd ar sicrhau bod y criwiau ar gael gennym i ateb y galw. Mae’r galw’n aruthrol ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod gennym unigolion sydd â’r sgiliau i wneud yn siŵr fod modd cynhyrchu teledu a ffilm.