<p>Datblygiad Economaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 1:54, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Y mis diwethaf, mynychais ‘data dive’ cyntaf Cymru, a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol—digwyddiad lle bu gwyddonwyr data, datblygwyr a dylunwyr, yn eu hamser eu hunain, yn gweithio gydag elusennau i roi cymorth iddynt ddefnyddio data i ddadansoddi eu prosiectau a’r cymunedau a gefnogir ganddynt. Yn yr achos hwn, roeddent yn gweithio gyda SafeLives a Llamau. Gan adeiladu ar y gwaith cyffrous hwn, bydd llawer o fusnesau a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn elwa o gydweithredu o’r fath yn y dyfodol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion annog rhagor o gydweithredu yn y maes ac archwilio ffyrdd y gallai gefnogi twf economaidd a gwella gwasanaethau lleol?