Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 21 Mehefin 2017.
Wel, mae cyfleoedd sylweddol a allai ddeillio o gydweithredu yn y maes penodol hwn. Mae data bellach yn rhan hanfodol o’r economi fyd-eang, ac mae’n amlwg fod defnydd arloesol o ddata yn sbarduno twf economaidd. Mae sawl her sydd angen ei hwynebu, ond gyda’r heriau hynny, daw cyfleoedd enfawr: storio data, ymelwa ar ddata a’i ddefnyddio, yn ogystal â diogelwch a sicrhau bod y broses o storio yn cael ei rheoli’n briodol. Credaf fod Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain yn y maes hwn. Credaf fod gan Gasnewydd stori anhygoel i’w hadrodd—mae ganddynt naratif gwych ynglŷn â sut y maent yn adeiladu dyfodol economaidd ar dechnolegau digidol sy’n datblygu, felly credaf fod hynny’n rhywbeth y dylai pob un ohonom ei gymeradwyo.
Mae gwerthoedd tîm wedi bod yn gryf yng Nghasnewydd a’r cyffiniau. Credaf y dylid canmol y cyngor lleol am eu gwaith yn y maes hwn. Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid wrth fwrw ymlaen â’r agenda benodol hon. A thrwy’r buddsoddiad hwn ar gyfer datblygu sgiliau newydd yn y maes, gobeithiaf y bydd Cymru’n dod yn un o arweinwyr y byd ym maes rheoli data yn foesegol.