<p>Datblygiad Economaidd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:56, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn groesawu’r ffaith fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol bellach wedi dechrau cyhoeddi data ar lefel awdurdodau lleol ar ddau ddull allweddol o fesur allbwn a ffyniant economaidd, sef gwerth ychwanegol gros ac incwm gwario gros aelwydydd. Rwy’n credu bod yna gryn botensial, a hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn dweud beth y gallant ei wneud yn y maes hwn, i sicrhau bod bargen ddinesig Caerdydd, dyweder—ond mae’n berthnasol i ddinas-ranbarthau eraill hefyd—yn defnyddio’r wybodaeth hon, ac yn mesur eu llwyddiant yn arwain at ffyniant economaidd a chynyddu cyfoeth ledled y rhanbarth. Rwy’n credu y bydd y rhain yn ddangosyddion allweddol.