Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni allem anghytuno â’r dadansoddiad hwnnw, ond yn anffodus mae’r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth alluogi pawb i fod yn barod i weithio ac yna i gynnal gwaith yn gymhleth iawn. Mae’r broses o ddirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben wedi creu nifer o bryderon y gallai’r strategaethau sy’n seiliedig ar le ar gyfer cryfhau cryfder cymunedau difreintiedig i allu mynegi eu hanghenion ac ymwneud â’r broses o ddatrys eu problemau gael eu tanseilio yn gyfan gwbl.
Ymddengys bod y Llywodraeth yn dibynnu ar gymwyseddau’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn unol â Deddf cenedlaethau’r dyfodol, a’r cyrff cyflawni arweiniol ar gyfer y rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf, i nodi’r rhaglenni sydd wedi gweithio’n dda. Ymddengys ein bod yn cymryd risg sylweddol iawn o ran ategu’r strategaethau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth y gwn eich bod newydd fod yn siarad amdanynt. Felly, tybed a allwch ddweud sut y mae’r Llywodraeth yn benderfynol o sicrhau y bydd y strategaethau sy’n seiliedig ar le, ac sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at y gymuned, yn cael eu cadw.