Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 21 Mehefin 2017.
Efallai yr hoffai’r Aelod wybod y byddwn, gyda’r model datblygu economaidd rhanbarthol arfaethedig, yn dod â’r gweithgareddau sy’n ymwneud â hyfforddiant cyflogaeth a sgiliau a darpariaeth sgiliau ynghyd ar batrwm tebyg, er mwyn inni gael dull o ddatblygu economaidd a darparu sgiliau sy’n fwy seiliedig ar le. Ond wrth gwrs, bydd yna raglenni sy’n seiliedig ar angen o hyd.
Yr hyn rydym yn awyddus i’w wneud yw sicrhau y ceir gwared ar bob rhwystr i gyflogaeth, pob rhwystr i ffyniant, boed hynny’n rhwystr i drafnidiaeth drwy ddarparu’r metro yn y de, masnachfraint rheilffyrdd well ar draws gweddill Cymru, bysiau gwell, neu drwy ofal plant, drwy’r broses o gyflwyno’r cymorth gofal plant mwyaf hael yn unman yn y DU, neu drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau, drwy gyflwyno cynllun cyflogadwyedd newydd. Y peth allweddol yw ein bod yn sensitif tuag at nodweddion a gofynion rhanbarthol, gan sicrhau darpariaeth deg hefyd ar gyfer pob unigolyn ledled ein gwlad.