Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 21 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg o werthusiadau annibynnol o Cymunedau yn Gyntaf fod y Llywodraeth wedi methu yn ei nod o leihau tlodi yn gyffredinol yn yr ardaloedd hyn. Wrth i Cymunedau yn Gyntaf ddirwyn i ben, sut y byddwch yn cyflawni’r nod penodol o leihau tlodi? Oherwydd, a dyfynnaf Ysgrifennydd y Cabinet o dystiolaeth y pwyllgor i ni y bore yma, bydd yn dibynnu ar ‘jig-so’ o wahanol brosiectau yn dod at ei gilydd, drwy fecanweithiau ariannu’r cynghorau a thrwy raglenni cyflogadwyedd, gan edrych ar un yn benodol, o’ch portffolio. Felly, mae’n ymwneud â sut y byddwch yn cyflawni ar drechu tlodi, gan fod y corff cyflawni allweddol a sefydlwyd gennych er mwyn gwneud hynny wedi methu’n sylfaenol o ran y nod hwnnw.