Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr. Heb wneud sylwadau ar yr ansoddeiriau a ddefnyddioch, gan nad hon yw’r adeg i wneud hynny, rydych wedi dweud bod yr asesiad cychwynnol o orsafoedd newydd posibl wedi blaenoriaethu’r cynnig ar gyfer gorsaf ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Porth y Gogledd, ar gyfer gwerthusiadau pellach. Sut y byddech yn ymateb i’r datganiad gan Gymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston? Y ffactor allweddol yn sail i’w cynnig ar gyfer parcffordd Glannau Dyfrdwy oedd y gallu i ddarparu maes parcio â chapasiti digonol ger yr orsaf, a fyddai’n hygyrch i boblogaeth sylweddol Glannau Dyfrdwy, gan na all Pont Penarlâg, Shotton na Phenarlâg wneud hynny.