2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2017.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0174(EI)
Rydym yn gweithio’n agos ac yn gyflym gyda phartneriaid i gyflwyno un o’r pecynnau mwyaf hael o fuddsoddiad yng ngogledd Cymru: dros £600 miliwn a fydd yn gwella’r seilwaith ledled y rhanbarth.
Diolch yn fawr. Heb wneud sylwadau ar yr ansoddeiriau a ddefnyddioch, gan nad hon yw’r adeg i wneud hynny, rydych wedi dweud bod yr asesiad cychwynnol o orsafoedd newydd posibl wedi blaenoriaethu’r cynnig ar gyfer gorsaf ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Porth y Gogledd, ar gyfer gwerthusiadau pellach. Sut y byddech yn ymateb i’r datganiad gan Gymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston? Y ffactor allweddol yn sail i’w cynnig ar gyfer parcffordd Glannau Dyfrdwy oedd y gallu i ddarparu maes parcio â chapasiti digonol ger yr orsaf, a fyddai’n hygyrch i boblogaeth sylweddol Glannau Dyfrdwy, gan na all Pont Penarlâg, Shotton na Phenarlâg wneud hynny.
Wel, credaf fod y grŵp defnyddwyr, y grŵp teithwyr yn llygad eu lle fod angen i ni fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Wrth gwrs, yn hanesyddol, nid yw Llywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am hynny, wedi rhoi fawr o sylw i anghenion y rhanbarth o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd. Gellir dweud hynny am weddill Cymru hefyd. Yr hyn rydym wedi’i wneud, er mwyn i’r gorsafoedd hynny fod mewn sefyllfa i ddenu cyllid, yw sicrhau ein bod wedi datblygu achosion busnes, ac rydym yn parhau i’w datblygu hyd nes y byddant yn barod i gael buddsoddiad gan Lywodraeth y DU, pe bai ar gael. Fel y dywedais, rydym yn dadlau’n gyson am gyfran fwy o’r adnodd hwnnw.
Mae parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Porth y Gogledd, yn brosiect a fyddai’n galluogi pobl—nifer fwy o bobl—i ddefnyddio cyfleusterau parcio a theithio. Rydym yn hynod o awyddus i’r rhan honno o Lannau Dyfrdwy allu cael ei defnyddio, nid yn unig ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, ond ar gyfer teithio llesol hefyd. Am y rheswm hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i gyngor Sir y Fflint edrych ar sut i wella teithio llesol yn yr ardal. Rydym yn gweithio gyda’r holl randdeiliaid ledled gogledd Cymru, a dros y ffin yn wir, er mwyn sicrhau bod gennym wasanaethau gwell sy’n fwy dibynadwy ac sy’n rhedeg yn amlach. Ac yn wir, o ganlyniad i fy ymgysylltiad â’r grŵp defnyddwyr, rydym wedi gallu sicrhau bod Network Rail yn cwblhau’r gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar linell Wrecsam-Bidston fel na fyddwn y gaeaf nesaf, gobeithio, yn gweld yr un math o oedi—oedi a chanslo annerbyniol—mewn gwasanaethau y mae cynifer o bobl yng ngogledd Cymru a dros y ffin yn dibynnu arnynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai gennyf datŵ am bob awr a dreuliais mewn tagfeydd traffig, byddai gennyf fwy na dwy lawes lawn. Ddydd Gwener, cefais fy nal yn yr anhrefn dychrynllyd ar yr A55, cyn troi rownd a chael fy nal am oriau o oedi ar yr A5 ger y Waun, sydd ond wedi ailagor yn llawn heddiw, rwy’n meddwl. Beth a wnewch i sicrhau, pan fydd y damweiniau hyn yn digwydd a phan fydd angen gwneud gwaith atgyweirio, fod gennym wasanaeth 24/7, lle y gall peirianwyr a chontractwyr gyrraedd yn gyflym a rhoi trefn ar bethau, a chyda phwyslais ar y penwythnos hefyd os gwelwch yn dda?
Rwy’n cydymdeimlo’n llwyr â phryderon yr Aelod, a’r pryderon a fynegwyd gan lawer ar y cyfryngau cymdeithasol, a’r rhwystredigaeth a fynegwyd ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn papurau newydd. Rwyf wedi gofyn i waith brys gael ei wneud a’i gyflwyno i mi, gydag argymhellion, cyn y toriad, ynglŷn â sut y gellir gwella’r ymateb i atgyweirio difrod, ac i archwilio’r opsiynau a’r costau ar gyfer darparu gwell ymateb brys i wahanol sefyllfaoedd, tebyg i’r rhai a welsom yn ddiweddar.
O ran y digwyddiadau eu hunain, arweiniodd y digwyddiad ar yr A55 y cyfeiriodd yr Aelod ato at gau’r ffordd i ddechrau. Byddaf yn cyhoeddi datganiad a fydd yn manylu ar yr hyn a ddigwyddodd yn dilyn y digwyddiad hwnnw. Er bod swyddogion wedi gweithio mor gyflym ag y gallent i gael gwared, neu geisio cael gwared, ar yr hyn a oedd ar wyneb y ffordd, yn y pen draw roedd angen gwneud rhagor o waith i glirio’r wyneb, ond gallasom agor y ffordd cyn gynted â phosibl. Roedd digwyddiad yn gynharach yn y mis ar yr A55 ger Bodelwyddan yn un anffodus iawn, ac roedd yn ymwneud ag unigolyn agored i niwed ar bont dros yr A55 ym Modelwyddan. Rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn cytuno na allwn gyfaddawdu pan fo bywydau mewn perygl. Mae’n anarferol i ddigwyddiad fel hwn bara cyhyd ag y gwnaeth, ond arweiniodd gogledd Cymru y gwaith o reoli’r digwyddiad. Yn yr un modd, cafodd y digwyddiad y daliwyd yr Aelod ynddo yr wythnos diwethaf ei reoli’n rhannol gan yr ambiwlans awyr, a ofynnodd am wasanaethau brys a chau’r ffyrdd—unwaith eto, ni allwn gyfaddawdu ar ddiogelwch.
O ran y digwyddiad ar yr A5 rhwng Halton a’r Gledryd ar 19 Mehefin, digwyddodd hyn pan darodd cerbyd yn erbyn parapet ar y draphont ei hun. Rhoddwyd dargyfeiriadau lleol ar waith, ond ni allem agor y ffordd heb osod rhwystrau amddiffynnol addas. Rwyf fi, a fy swyddogion, wedi bod yn galw am waith brys er mwyn gallu ailagor y ffordd. Mae dod o hyd i’r arbenigwyr angenrheidiol i gyflawni’r gwaith hwnnw wedi bod yn gryn dipyn o her, yn rhannol oherwydd bod cymaint o waith yn mynd rhagddo ar bontydd a chyfleusterau eraill yn Llundain ar hyn o bryd, ond gobeithiaf y bydd y dargyfeiriad wedi dod i ben erbyn bore dydd Gwener er mwyn gallu ailagor y ffordd honno. Ond fel y dywedaf unwaith eto, bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei ryddhau cyn bo hir ac rwyf wedi gofyn i’r gwaith brys hwnnw gael ei gyflwyno i mi cyn y toriad, gyda chyfres o argymhellion, er mwyn inni allu ymateb i ddigwyddiadau fel hyn yn llawer cyflymach a’u datrys yn gynt yn y dyfodol.