<p>Seilwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nathan Gill Nathan Gill Independent 2:13, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai gennyf datŵ am bob awr a dreuliais mewn tagfeydd traffig, byddai gennyf fwy na dwy lawes lawn. Ddydd Gwener, cefais fy nal yn yr anhrefn dychrynllyd ar yr A55, cyn troi rownd a chael fy nal am oriau o oedi ar yr A5 ger y Waun, sydd ond wedi ailagor yn llawn heddiw, rwy’n meddwl. Beth a wnewch i sicrhau, pan fydd y damweiniau hyn yn digwydd a phan fydd angen gwneud gwaith atgyweirio, fod gennym wasanaeth 24/7, lle y gall peirianwyr a chontractwyr gyrraedd yn gyflym a rhoi trefn ar bethau, a chyda phwyslais ar y penwythnos hefyd os gwelwch yn dda?