Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Mehefin 2017.
Rydym yn codi’r mater hwn, drwy gyd-ddigwyddiad, ar ddydd pan fo’r llygredd aer yng Nghaerdydd ar lefelau peryglus oherwydd y cyfuniad o lefelau osôn a lefel y gronynnau o gerbydau. Dywedodd yr Athro Syr David King, cyn brif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, yn ddiweddar fod plant sy’n eistedd yn y sedd gefn mewn cerbydau yn debygol o fod yn agored i lefelau peryglus o lygredd aer mewn blwch sy’n casglu’r nwyon gwenwynig o’r holl gerbydau o’ch cwmpas.
Dywedodd yr Athro Stephen Holgate, arbenigwr ar asthma ym Mhrifysgol Southampton a chadeirydd gweithgor Coleg Brenhinol y Meddygon ar lygredd aer, fod digon o dystiolaeth i ddweud wrth rieni fod cerdded a beicio yn gwneud eu plant yn agored i lai o lygredd aer na gyrru. Mae’r risg o lygredd aer y tu mewn i’r car naw i 12 gwaith yn uwch na’r tu allan. Maent yng nghefn y car gan amlaf, plant, ac os yw’r gwyntyllau ymlaen, maent yn sugno’r mygdarth ffres a ddaw allan o’r car neu’r lori o’u blaenau yn syth i mewn i gefn y car.
Gwyddom o’r ymchwil sydd gennym eisoes fod hyn yn cynyddu’r risg o leihau twf eu hysgyfaint, o ddod yn asthmatig. Ceir pryder cynyddol hefyd y gallai lesteirio gallu plant i ddysgu yn yr ysgol ac y gallai niweidio eu DNA.
Mae’r dystiolaeth hon yn eithaf sylweddol, felly tybed pa gyngor y mae eich arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn ei roi i benaethiaid, a all ei drosglwyddo i rieni, er mwyn ei gwneud yn glir i bobl ei bod yn llawer mwy diogel iddynt gerdded a beicio i’r ysgol nag ydyw i fynd â’u plant mewn car.