<p>Trafnidiaeth i Ysgolion mewn Ardaloedd Trefol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:25, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, yn ôl yr Archwiliad Dinesig Ewropeaidd, Caerdydd yw’r ddinas orau i fyw ynddi yn y DU, a’r chweched brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop. Copenhagen oedd ar y brig: mae 45 y cant o’i thrigolion yno’n beicio i’r gwaith. Fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a wnewch chi osod targedau o ran nifer y teithiau difodur ar gyfer ein dinasoedd ac ardaloedd trefol eraill? Byddai hwnnw’n gam gweithredu da o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.