Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 21 Mehefin 2017.
Rwy’n parhau gyda fy ateb i roi gwybod i chi fod gan y fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ddangosydd sy’n ymwneud yn benodol â sicrhau bod crynodiad cyfartalog nitrogen deuocsid mewn anheddau yn un o ganlyniadau fframwaith cenedlaethol llesiant ac iechyd y cyhoedd Cymru. Felly, mae hynny’n ganolog i’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl o ran casglu data a’n huchelgeisiau yn y maes hwnnw. Felly, gallwch fod mor goeglyd ag y dymunwch, ond ni fyddech yn disgwyl i mi wneud ymrwymiadau mewn gwahanol—