<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:30, 21 Mehefin 2017

Diolch, Llywydd. Mae sawl achos wedi cael eu tynnu i’m sylw i o feddygon a hyfforddwyd yng Nghymru ac sydd eisiau gweithio yng Nghymru, ond, oherwydd eu bod nhw wedi gweithio dramor, neu wedi derbyn hyfforddiant pellach dramor, sy’n ei chael hi’n anodd iawn i gofrestru i weithio eto yng Nghymru. Yn un achos—mi wnes i ysgrifennu at eich rhagflaenydd ynglŷn a hi—mi wnaeth hi orfod mynd yn ôl i Seland Newydd ar ôl symud yn ôl i Gymru oherwydd y trafferthion yn cofrestru yn barhaol, a hynny’n golled mawr i’r NHS.

Mae’r unigolyn diweddaraf i gysylltu yn sôn am gannoedd o dudalennau i’w llenwi ac angen mewnbwn gan gyn-gyflogwyr, ond efo gwaith gweinyddol mor drwm ar hynny, mae rhai yn Awstralia, yn sicr, yn gwrthod cymryd rhan. Mae yna sôn am angen am ffurflen eirda gymhleth gan chwech o gyn-gyflogwyr. Rwy’n clywed am ddryswch ynglŷn â’r wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru. Mae yna ofynion o ran ailhyfforddi, cyfnod pellach o oruchwylio, ac yn y blaen. Ac mae Cymru yn cael ei gweld fel gwlad sydd ddim yn gallu rhoi sicrwydd ynglŷn â lle fyddai rhywun yn cael gweithio.

Beth sy’n cael ei wneud erbyn hyn i hwyluso’r broses o ailgofrestru meddygon yng Nghymru, er mwyn i ni allu denu meddygon Cymreig yn ôl, neu feddygon eraill o dramor, o ran hynny?