<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:33, 21 Mehefin 2017

Ac yn sicr, mi wnaf i gysylltu efo chi, yn y ffordd y gwnes i gysylltu â’ch rhagflaenydd, a wnaeth hefyd ddweud geiriau mor gynnes ag yr ydych chi wedi eu dweud. Ond, yn anffodus, mae’n amlwg bod yna broblem o’n blaenau ni o hyd.

Mi symudaf at yr her o ddenu meddygon o Loegr. Mae meddygon sydd wedi eu cofrestru yn Lloegr yn methu â gweithio yng Nghymru nes eu bod nhw wedi cael eu cofrestru, fel rydych chi’n ei wybod, ar y rhestr perfformwyr Cymreig. Mae yna restr gyffelyb yn Lloegr. Mae’r BMA yn nodi bod anhawster trosglwyddo gwybodaeth rhwng y ddwy restr, a chymhlethdod cofrestru ar y rhestr Gymreig yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ddenu ‘locums’ yma, yn benodol. Ac, yn 2015, mi wnaeth y BMA argymell bod angen i Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig weithio efo’i gilydd i wella’r symudedd gwybodaeth yma rhwng y ddwy restr. Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi eu cymryd ers hynny i’w gwneud hi’n haws i gofrestru meddygon o Loegr i weithio yng Nghymru, rhywbeth sy’n hanfodol, wrth gwrs, i gyd-fynd ag unrhyw ymgyrch recriwtio?