Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 21 Mehefin 2017.
Rwy’n sicr yn croesawu unrhyw arwyddion—ac mae yna arwyddion positif—o welliant yn nifer y rhai sy’n dewis dod i weithio yng Nghymru, a chynnydd yn y nifer sy’n dewis hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ac mae cynnig cymhelliad ariannol yn gallu chwarae rhan yn hynny o beth. Ond mae datblygu arbenigedd, a chael cefnogaeth i ddatblygu’r arbenigedd yna, hefyd yn rhywbeth sydd yn apelio at feddygon ifanc. Ac o wybod bod ei’n hardaloedd gwledig ni yn wynebu her wirioneddol o ran recriwtio, a ydy’r Gweinidog yn cytuno efo fi bod sgôp gwirioneddol i ddefnyddio ysgol feddygol newydd ym Mangor fel canolfan i ddatblygu arbenigedd, a allai fod yn arbenigedd byd-eang mewn meddygaeth wledig yn benodol, a hynny yn y sector gofal cynradd ac eilaidd hefyd, ac y dylai hynny fel nod fod yn hwb i symud yn gyflym tuag at sefydlu addysg feddygol ym Mangor?