Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 21 Mehefin 2017.
Fel y dywedais yn ail ran fy ateb cyntaf, rwy’n credu, mae’n rhaid i ni gael ein harwain gan y dystiolaeth, ac os ceir tystiolaeth sy’n dangos mai newid y terfyn oedran yw’r peth iawn i’w wneud, yna gallwch ddisgwyl y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny. Ond nid wyf yn credu y gallwn osod terfyn mympwyol ar oedran wedi’i yrru gan ymgyrch os nad yw wedi’i gefnogi gan dystiolaeth. Ac mae hynny’n anodd iawn, oherwydd rwy’n deall yr emosiwn a’r effaith ddealladwy ar bobl nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhaglen sgrinio ond sydd, serch hynny, yn dioddef o gyflyrrau gan gynnwys canser. Ond nid wyf yn credu bod unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn gallu dweud y bydd yn gwneud dewis ynglŷn â chynnal rhaglen sgrinio genedlaethol y tu allan i’r terfynau a heb ystyriaeth briodol i’r dystiolaeth sy’n bodoli ar beth i’w wneud â’r hyn rydym yn cydnabod eu bod yn adnoddau cyfyngedig yn y gwasanaeth iechyd, a’r niwed go iawn y gellid ei wneud drwy sgrinio rhai nad ydynt ei angen, yn ogystal â’r budd gwirioneddol sydd i’w gael o raglen sgrinio o ansawdd uchel, gydag adnoddau priodol, ar draws y wlad.