Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn, ac mae hwn yn destun trafodaethau parhaus rwy’n eu cael gyda’r Gweinidog addysg hefyd. Mae’n werth nodi bod bron i dri chwarter y plant pedair i bum mlwydd oed yn cario pwysau iach mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rydym am ganolbwyntio ein hymdrechion ar y chwarter sy’n weddill nad ydynt yn cario pwysau iach. Mae lefelau gordewdra ymysg plant wedi lefelu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond unwaith eto, mae angen i bethau symud i’r cyfeiriad cywir.
Mae’n bwysig nodi hefyd fod yn rhaid i ni gefnogi plant sydd eisoes yn cario gormod o bwysau ar oedran ifanc, ac rwy’n falch iawn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ac erbyn hyn wedi datblygu manyleb gwasanaeth cytunedig am wasanaethau lefel 3 ar gyfer gordewdra ymysg plant. Felly, bydd hyn yn ein helpu yn ein hymdrechion i gynnal gwasanaeth gordewdra wedi’i integreiddio’n llawn ar bob haen o gymorth yng Nghymru. Felly, credaf fod hwn yn gam cyffrous, newydd a phwysig ymlaen i gefnogi plant sydd eisoes yn cario gormod o bwysau. Os ydym yn gweithredu pan fônt yn ifanc, yna’n sicr, gallant edrych ymlaen at gario pwysau iach fel oedolion.