3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2017.
4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant yng Nghymru? OAQ(5)0187(HWS)
Ein blaenoriaeth yw mabwysiadu ymagwedd ataliol i fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ymgyrchoedd, rhaglenni a deddfwriaeth.
Mae enghreifftiau’n cynnwys ein rhaglen Teithiau Llesol, rhaglenni Plentyn Iach Cymru ac ymgyrch 10 Cam i Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Ardal bwrdd iechyd Cwm Taf sydd â’r cyfraddau gwaethaf o ordewdra ymysg plant yng Nghymru. Mae mwy nag un o bob pedwar o blant yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon yn ordew, ac yn ogystal â pheri heriau iechyd, gwyddom fod hyn yn effeithio hefyd ar eu bywydau cymdeithasol ac addysgol. Gall arferion arloesol a chynhwysol fel y filltir ddyddiol annog gweithgaredd iach, a gwn eich bod chi a’r Ysgrifennydd addysg wedi ysgrifennu llythyr at ysgolion cynradd ym mis Ionawr yn eu hannog i wneud hyn. Pa gynnydd a fu ar y mater hwn?
Rydym wedi gweld nifer fawr o ysgolion yn mynegi llawer o ddiddordeb yng nghynllun y filltir ddyddiol ac yn defnyddio’r adnoddau dwyieithog sydd gennym ar-lein. Nid wyf eisiau dyfynnu rhif eto, oherwydd, pan fyddwn yn cyrraedd carreg filltir, hoffwn wneud cyhoeddiad bryd hynny, ond rwyf am ddweud bod cryn ddiddordeb wedi bod yn y cynllun hwn, ac mae’r ysgolion sy’n ei wneud yn dweud eu bod eisoes yn gweld gwahaniaeth mewn patrymau ymddygiad yn y dosbarth ac yn y blaen. Mae’n boblogaidd iawn ymysg yr athrawon eu hunain, a hefyd y plant, ac ymysg rhieni hefyd. Rwyf wedi bod yn gweithio, fel y dywedwch, gyda’r Gweinidog addysg i archwilio sut y gallwn gyflwyno pethau eraill o fewn amgylchedd yr ysgol yn ogystal, ac un rhaglen newydd rwy’n teimlo’n gyffrous iawn yn ei chylch, sydd wedi’i datblygu dros gyfnod o amser gyda phrosiectau peilot, yw’r rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol, a fydd yn digwydd mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod yr haf hwn. Mae’n gyfle gwirioneddol wych i roi cyfle i blant gael pryd o fwyd iach yn ystod y dydd yn ystod y gwyliau, ond hefyd i fynd i’r afael â phethau fel colli dysgu dros y gwyliau, oherwydd gwyddom fod rhai disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf ac maent wedi llithro ar ôl yn eu dysgu ac yn y blaen. Ond mae’r rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol yn ymwneud mewn gwirionedd â gwneud yr amgylchedd ysgol yn amgylchedd llawn hwyl i dreulio amser ynddo dros yr haf, a hefyd i gadw’ch pen uwchlaw’r dŵr o ran eich dysgu ac i gael mynediad at bryd iach o fwyd a gweithgareddau llawn hwyl.
Mae hyn yn newyddion gwych iawn. Mae’n gadarnhaol iawn, ac mae’r filltir ddyddiol yn offeryn defnyddiol iawn. Fodd bynnag, gadewch i ni fod yn onest, rydym wedi cael dadleuon diddiwedd yn y Siambr hon ynglŷn â risg gordewdra, ynglŷn â sut y mae’n dod yn her y dyfodol i iechyd y cyhoedd, ynglŷn â’r holl ganlyniadau i bobl o gario gormod o bwysau, yn enwedig yn ddiweddarach mewn bywyd, a lle mae’n rhaid i ni ei atal yw ymhlith y plant ifanc. Felly, tra’ch bod yn annog ysgolion i fanteisio ar y mathau hyn o ddewisiadau, tra rydych yn annog y gweithgareddau gwyliau hyn, rwy’n credu mai’r hyn sydd angen i ni ei roi ar waith, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych wedi cael nifer o drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyd y llinellau hyn ynglŷn â pheidio â’i wneud yn ddewisol a pheidio â’i wneud yn ddiflas. Mae angen i ni gael ymarfer corff mewn ysgolion sy’n rhaid i blant ei wneud, ond ymarfer corff sy’n hwyl ac nad yw’n barnu. Gall fod yn ddawnsio i One Direction; nid oes ots, gan y byddant yn dal i gadw’n heini. Credaf ei bod yn bwysig iawn nad ydych yn rhoi cyfle i ysgolion ddewis peidio â gwneud rhai o’r pethau hyn, gan mai’r plant hyn, fel y soniodd Vikki, sy’n tyfu i fyny ac yn mynd i gael yr holl broblemau iechyd hynny yn y dyfodol, ac rwy’n credu bod angen i ni fod yn gryf iawn ar y pwnc hwn.
Diolch yn fawr iawn, ac mae hwn yn destun trafodaethau parhaus rwy’n eu cael gyda’r Gweinidog addysg hefyd. Mae’n werth nodi bod bron i dri chwarter y plant pedair i bum mlwydd oed yn cario pwysau iach mewn gwirionedd. Fodd bynnag, rydym am ganolbwyntio ein hymdrechion ar y chwarter sy’n weddill nad ydynt yn cario pwysau iach. Mae lefelau gordewdra ymysg plant wedi lefelu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond unwaith eto, mae angen i bethau symud i’r cyfeiriad cywir.
Mae’n bwysig nodi hefyd fod yn rhaid i ni gefnogi plant sydd eisoes yn cario gormod o bwysau ar oedran ifanc, ac rwy’n falch iawn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ac erbyn hyn wedi datblygu manyleb gwasanaeth cytunedig am wasanaethau lefel 3 ar gyfer gordewdra ymysg plant. Felly, bydd hyn yn ein helpu yn ein hymdrechion i gynnal gwasanaeth gordewdra wedi’i integreiddio’n llawn ar bob haen o gymorth yng Nghymru. Felly, credaf fod hwn yn gam cyffrous, newydd a phwysig ymlaen i gefnogi plant sydd eisoes yn cario gormod o bwysau. Os ydym yn gweithredu pan fônt yn ifanc, yna’n sicr, gallant edrych ymlaen at gario pwysau iach fel oedolion.