<p>Seilwaith TG GIG Cymru</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:01, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gan Gymru hanes da ar y cyfan o fuddsoddi yn seilwaith TG y GIG. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu amcanion ar gyfer fframwaith gwasanaethau digidol gwerth £180 miliwn ar gyfer Cymru gyfan. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei weledigaeth ynglŷn â sut y bydd y cynllun yn gwella seilwaith TG y GIG, pa fesurau diogelwch sydd ganddo ar waith i ddiogelu cyfrinachedd cleifion, yn enwedig o ystyried achosion o dorri cyfrinachedd mewn rhannau eraill o’r DU, a pha asesiad a wnaed o’r arbedion cyffredinol y bydd y fframwaith newydd yn eu creu o ran gwerth ariannol i glinigwyr?