Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch. Ym mis Hydref 2016, taflodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda fwy na 7 y cant o’r bwyd roedd yn ei ddarparu. Dyna’r bwrdd sy’n perfformio waethaf yng Nghymru. Y cywilydd go iawn, wrth gwrs, yw bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi’i leoli mewn ardal sy’n gyfoethog o ran cynnyrch bwyd ffres. Ysgrifennydd y Cabinet, faint ymhellach y credwch y gallwch fynd o ran cydweithredu gydag asiantaethau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod modd rhoi mwy o fwyd lleol Cymreig blasus ar y fwydlen yn ein hysbytai? Nawr, gallai’r archebion mwy o faint hyn gan y GIG yng Nghymru gael effaith sylweddol ar y diwydiant bwyd yng Nghymru, a byddwn yn cynnig hyn yn y cynllun datblygu gwledig y byddwn yn ei gyhoeddi yr wythnos nesaf. I ba raddau rydych chi’n credu y gallwch gydweithredu’n llawer agosach gyda’r Ysgrifenyddion dros yr economi, amaethyddiaeth a materion gwledig ar y mater hwn?