<p>Asesiad PISA 2018</p>

Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:08, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Darren, am y cyfle i drafod Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2018 heddiw, ar ôl y cwestiynau ddoe ar asesiad 2021. Rwy’n glir fy mod yn disgwyl gweld gwelliant yn sgôr PISA Cymru yn 2018, ond yn benodol, rwyf eisiau gweld cynnydd yn y perfformiad uwchben y 75ain canradd.