4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 21 Mehefin 2017.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018? TAQ(5)0143(EDU)
Diolch i chi, Darren, am y cyfle i drafod Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2018 heddiw, ar ôl y cwestiynau ddoe ar asesiad 2021. Rwy’n glir fy mod yn disgwyl gweld gwelliant yn sgôr PISA Cymru yn 2018, ond yn benodol, rwyf eisiau gweld cynnydd yn y perfformiad uwchben y 75ain canradd.
Rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod y canlyniadau PISA a gyhoeddwyd y llynedd yn dangos bod Cymru wedi dioddef degawd o ddirywiad yn y tablau cynghrair rhyngwladol, gyda sgoriau gwaeth ar gyfer llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2015 nag oeddent yn 2006. Ac fe ysgogodd y sgoriau gwael hynny eich rhagflaenwyr i gyhoeddi pob math o darged ar gyfer Llywodraeth Cymru, a’r diweddaraf o’r rhain, wrth gwrs, yn 2011; gwelsom Leighton Andrews yn gosod targed i gyrraedd 20 uchaf y tablau cynghrair rhyngwladol erbyn 2015. Roedd hynny, wrth gwrs, yn annhebygol iawn ac o ganlyniad, cafodd ei olynydd, Huw Lewis, wared ar y targed cyn gosod targed newydd i gyflawni sgoriau o 500, fan lleiaf, ym mhob un o’r pynciau erbyn 2021. Nawr, ar yr adeg y gwnaed y cyhoeddiad hwnnw, fe feirniadoch chi benderfyniad Llywodraeth Cymru ar y pryd, gan ddweud ei fod yn enghraifft, ac rwy’n dyfynnu,
‘o ddiffyg uchelgais llwyr’, ac fe gyhuddoch y Llywodraeth ar y pryd o ‘[d]derbyn cyffredinedd’.
Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—
Rwyf eisiau i’r cwestiwn gael ei glywed, os gwelwch yn dda.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf—[Torri ar draws.] Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth—
Nid wyf yn dweud y pethau hyn a disgwyl cael fy anwybyddu. Rwyf eisiau i’r cwestiwn gael ei glywed.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, wrth drafod targed 2021, ac rwy’n dyfynnu, ‘Nid fy nharged i ydyw’, ac fe ddynodoch eich bod yn symud oddi wrtho. Ddoe, gwelsom y Prif Weinidog yn eich rhoi yn eich lle oherwydd yr hyn a ddywedoch, gan ailddatgan yr ymrwymiad i darged 2021, perfformiad arbennig o warthus ar ran y Prif Weinidog, o ystyried ei bod hi’n Ddiwrnod ‘Stand up to Bullying’ heddiw. Nawr, mae hynny’n gwneud i Lywodraeth Cymru edrych fel rhyw fwystfil â dau ben yn tynnu i gyfeiriadau gwahanol, ychydig fel y ‘pushmi-pullyu’ yn stori enwog Doctor Dolittle. Felly, a gaf fi ofyn i chi: rydych wedi egluro eich targed anuchelgeisiol ar gyfer 2018—? Os nad 2021 yw eich targed, a allwch ddweud wrthym: beth yw eich targed ar gyfer 2021, yn benodol; pryd y gallwn ddisgwyl cyrraedd y targed hwnnw; a beth yw eich strategaeth i sicrhau bod Cymru’n ei gyrraedd, oherwydd nid wyf yn gweld un?
Diolch yn fawr iawn, Darren. Rwy’n gresynu at eich ieithwedd anffodus, ac nid wyf yn credu bod galw amdani yn y sefyllfa hon, yn enwedig wrth gyfeirio at Aelod gwrywaidd ac Aelod benywaidd o’r Cynulliad hwn. Mae iddi gynodiadau anffodus. Fodd bynnag, rydych yn llygad eich lle: nid yw perfformiad Cymru ar hyn o bryd yn y safleoedd PISA yn ddigon da. Nid oedd yn ddigon da pan oeddwn yn eistedd yn y fan honno, ac yn sicr nid yw’n ddigon da yn awr a minnau’n eistedd yn y fan hon, ac yn bwysicach efallai, yn cael cyfle i wneud rhywbeth am y peth. Mae targedau, wrth gwrs, yn bwysig, ond gallwch gyrraedd y targed, Darren, a gallwch fethu’r pwynt—mae gweithredu’n fwy pwysig.
Rwy’n glir iawn fy mod yn disgwyl gweld gwelliant yn y set nesaf o ganlyniadau PISA, ond fel y dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd eu hunain, dylid defnyddio PISA fel offeryn diagnostig, ac nid yw’n ymwneud yn unig ag un sgôr. Gan ddefnyddio data PISA, mae’n amlwg i mi mai’r hyn sydd angen i ni wneud mwy ohono yw cefnogi’r hyn y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi’i ddisgrifio fel y 75ain canradd. Rwyf wrthi’n ystyried ac yn cwmpasu’r gwaith o gyflwyno cynllun wedi’i dargedu i roi cefnogaeth well i’n disgyblion mwy galluog a thalentog a fydd yn cysylltu â’r rhwydwaith Seren llwyddiannus. Bydd hyn yn ategu’r gwaith gyda’r rhwydwaith mathemateg a gwyddoniaeth, a gyhoeddais ers yr adroddiadau PISA diwethaf, fel y gallwn ganolbwyntio’n agos ar ddatblygu sgiliau ein hathrawon i gynorthwyo ein plant mwy galluog a thalentog. Fel y byddwch yn gwybod, gan fod gennych ddiddordeb mawr yn hyn, darllen yw ffocws y prawf PISA nesaf. Yn y prawf PISA diwethaf, 3 y cant oedd gan Gymru yn y ddwy lefel uchaf, a byddwn yn hynod o siomedig pe na bai’r ffigur hwnnw’n cynyddu y tro nesaf.
Mae hi’n berffaith amlwg i mi fod y Llywodraeth mewn cryn bicil ynglŷn â’r mater yma. Mi gadwaf i fy sylwadau’n fyr iawn. Mi oeddwn i’n cyd-fynd â chi, pan oeddech chi’n eistedd ar y meinciau yma, pan wnaethoch chi sôn am ddiffyg uchelgais Gweinidogion Llafur o’ch blaen chi, ond o fod wedi gwrando ar eich atebion chi heddiw, nid ydw i’n clywed a ydych chi hyd yn oed yn dal yn ymrwymedig i’r targedau y dywedodd y Prif Weinidog ddoe yn berffaith glir yr oedd o wedi ymrwymo iddyn nhw. Mi roddaf gyfle unwaith eto i chi ddweud a ydych chi’n cadw at y targed y mae Carwyn Jones yn sicr yn ei barchu o hyd, ynteu a ydych chi’n dal i gadw at y sylwadau a wnaethoch chi o’r meinciau yma fod angen i’r uchelgais fod yn fwy na hynny?
Diolch i chi, Rhun. Fel y clywsoch ddoe gan y Prif Weinidog, 500—[Torri ar draws.] Os gadewch i mi orffen, 500 yw nod hirdymor Llywodraeth Cymru o hyd ar gyfer y set nesaf ond un o ganlyniadau PISA. Felly, wyddoch chi, mae angen i ni wneud cynnydd yn y set nesaf o ganlyniadau PISA os ydym am gyrraedd y targed nesaf, a dyna pam rwyf fi, yn gwbl briodol, tra bwyf yn y swydd hon, yn canolbwyntio ar ymyriadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r set nesaf o ganlyniadau PISA, a fydd yn gyfeirbwynt pwysig i’r set nesaf.