<p>Asesiad PISA 2018</p>

Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:14, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Rhun. Fel y clywsoch ddoe gan y Prif Weinidog, 500—[Torri ar draws.] Os gadewch i mi orffen, 500 yw nod hirdymor Llywodraeth Cymru o hyd ar gyfer y set nesaf ond un o ganlyniadau PISA. Felly, wyddoch chi, mae angen i ni wneud cynnydd yn y set nesaf o ganlyniadau PISA os ydym am gyrraedd y targed nesaf, a dyna pam rwyf fi, yn gwbl briodol, tra bwyf yn y swydd hon, yn canolbwyntio ar ymyriadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r set nesaf o ganlyniadau PISA, a fydd yn gyfeirbwynt pwysig i’r set nesaf.