Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n falch o gyhoeddi bod y cytundeb mynediad masnachol ar gyfer Kadcyla wedi cychwyn yng Nghymru heddiw, yn union yr un pryd ag yn Lloegr, ac mae’n union yr un peth â’r cytundeb a drafodwyd gyda GIG Lloegr. Dyma’r math o feddyginiaeth y cafodd y gronfa driniaeth newydd £80 miliwn ei sefydlu i’w chefnogi.