4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 21 Mehefin 2017.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb mynediad masnachol rhwng GIG Cymru a Roche, a fydd yn golygu y gall cleifion canser y fron yng Nghymru gael gafael ar y cyffur Kadcyla? TAQ(5)0192(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n falch o gyhoeddi bod y cytundeb mynediad masnachol ar gyfer Kadcyla wedi cychwyn yng Nghymru heddiw, yn union yr un pryd ag yn Lloegr, ac mae’n union yr un peth â’r cytundeb a drafodwyd gyda GIG Lloegr. Dyma’r math o feddyginiaeth y cafodd y gronfa driniaeth newydd £80 miliwn ei sefydlu i’w chefnogi.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae eich penderfyniad i alluogi mynediad at Kadcyla yn ddatblygiad i’w groesawu, a hoffwn dalu teyrnged i’r holl ymgyrchwyr ledled y DU sydd wedi ymladd ers cymaint o amser i gael mynediad at y cyffur hwn sy’n ymestyn bywydau. Mae’r therapi hon sydd wedi’i thargedu yn hanfodol ar gyfer rhai sydd â mathau penodol o ganser y fron HER2 positif, ond yn wreiddiol roedd ei chost ariannol yn uchel iawn, ac rydym i gyd yn cydnabod ei bod yn ddyletswydd ar y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i sicrhau bod mesur o gosteffeithiolrwydd yn perthyn i fuddsoddiad trethdalwyr mewn triniaethau cyffuriau modern. Wrth gwrs, mae’n ymwneud â mwy na’r arian, fel y bydd y rhai sy’n defnyddio’r cyffur hwn ac sydd eisiau mwy o amser gyda’u hanwyliaid yn gallu tystio.
Fy nealltwriaeth i yw mai un o’r rhesymau pam y llwyddodd Kadcyla i gael cymeradwyaeth NICE oedd oherwydd y fethodoleg ddiwygiedig a ddefnyddiwyd i gymharu ei effeithiolrwydd yn erbyn gwahanol gyfuniadau o driniaeth. A allwch roi cipolwg i mi ar broses y fethodoleg a ddefnyddir gan NICE? A oes modd defnyddio’r egwyddor sy’n sail i broses y fethodoleg ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo Kadcyla mewn cysylltiad â chyffuriau eraill nad ydynt ar gael ar hyn o bryd? Mae Orkambi, er enghraifft, yn dod i’r meddwl. Rwy’n sylweddoli na fyddwch yn gallu datgelu manylion y cytundeb masnachol rhwng Llywodraeth Cymru a Roche, ond hoffwn wybod ai’r un fargen â’r un a sicrhaodd GIG Lloegr ydyw. Yn olaf, pa wersi y gallwn eu dysgu o hyn er mwyn manteisio ar therapïau cyffuriau newydd i helpu ein pobl fwyaf sâl gan gadw bwlch priodol yn agored ar gyfer datblygwyr a gweithgynhyrchwyr a sicrhau ar yr un pryd fod arian trethdalwyr yn cael ei wario’n ddoeth?
Diolch am y tri chwestiwn gwahanol. Ar y cwestiwn cyntaf ynglŷn â deall a oes dull gwahanol wedi’i weithredu ar gyfer yr asesiad technoleg a gyflawnwyd gan NICE ar effeithiolrwydd clinigol a hefyd ar gosteffeithiolrwydd mewn perthynas â chanlyniadau bywyd gwell, ni allwn ddweud dim wrthych am y manylion hynny a bod yn onest, er y byddwn yn hapus i gael sgwrs gyda swyddogion a phobl yng Ngrŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru i ddeall a oedd unrhyw wahaniaeth, ond yn sicr nid wyf yn gymwys i roi ateb i chi ynglŷn ag a oedd yna ddull gwahanol. Rwy’n hapus i gael golwg ar y broses a’r modd y cyflawnwyd hynny a dod yn ôl atoch.
Ar yr ail bwynt, yn gofyn ai’r un cytundeb sydd gennym yng Nghymru, ie, yr un cytundeb ydyw. Mae gennym yr un telerau yng Nghymru, ar yr un pryd. Roedd hynny’n rhan o’r negodi. Mewn gwirionedd, roeddwn yn y gynulleidfa yng nghynhadledd Cydffederasiwn y GIG yn Lloegr pan gyhoeddodd Simon Stevens y cytundeb o’r llwyfan, a llwyddo i godi sawl sgwarnog ynglŷn ag ai cytundeb ar gyfer Lloegr yn unig ydoedd ai peidio. Felly, rwy’n hapus iawn o fod wedi gallu cadarnhau ei fod yn gytundeb ar gyfer Cymru a Lloegr, heb unrhyw wahaniaeth o ran argaeledd y driniaeth yma yng Nghymru.
Yna, ar gyfer y dyfodol, rwy’n credu bod hyn yn sicr yn dweud rhywbeth wrthym nid yn unig am ymgyrchu ond am y berthynas aeddfed y mae angen i ni ei chael mewn gwirionedd gyda’r cyhoedd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ond hefyd gyda phobl yn y diwydiant fferyllol. Oherwydd mae’n hawdd cynnal ymgyrch sy’n seiliedig ar emosiynau pobl a allai gael cyffur sy’n ymestyn eu bywydau neu’n achub eu bywydau, ond fel rydych yn ei gydnabod yn gywir, mae’n rhaid cael cydbwysedd i bwrs y wlad ac i bawb ohonom gyda’n gilydd o ran faint rydym yn barod i’w dalu ar y cyd am driniaethau unigol ac i ddeall effeithiolrwydd gwirioneddol y triniaethau hynny. Rydym wedi gweld yn y gronfa cyffuriau canser, yr adolygiad annibynnol, ei fod yn cydnabod nad oedd yn bosibl dweud go iawn fod tua £1 biliwn, o’r £1.27 biliwn, wedi cael ei wario ar wella canlyniadau. Mae honno’n ffordd wael o wneud hyn, ac nid wyf yn credu ei fod yn ddefnydd da iawn o arian cyhoeddus. Felly, mae’n rhaid i ni ddeall bod proses sy’n ddilys, sy’n arbenigol ac sy’n cael ei harwain gan dystiolaeth yn darparu sicrwydd priodol am werth ac effeithiolrwydd triniaethau, ac yn yr un modd y sgwrs fwy aeddfed honno drwy’r diwydiannau fferyllol ynglŷn â’r hyn y gallant ei ddisgwyl a’r hyn y gall ac y bydd pwrs y wlad yn ei gyflawni, a’r dystiolaeth honno rydym ei hangen ar yr effeithiolrwydd hwnnw ynghyd â’i gost a’i werth.
A gaf innau groesawu y cam yma sydd wedi cael ei gymryd? Mae’r egwyddor wedi ei sefydlu o ran y cyffur yma. Yr ymarferol, wrth gwrs, sydd yn bwysig i ddioddefwyr y canser yma y mae’r cyffur yma wedi ei gynllunio ar ei gyfer. Felly, dau gwestiwn syml: pa bryd rŵan, yn ymarferol, y bydd y cyffur yma ar gael yng Nghymru, a faint o amser a fydd yn rhaid i gleifion aros i gael presgripsiwn i’r cyffur yma?
Ac un cwestiwn pellach ynglŷn â chyffur arall y mae Breast Cancer Now yn codi pryderon ynglŷn ag o. Tra’n croesawu’r cytundeb ar Kadcyla, mi ddyfynnaf gan Delyth Morgan, prif weithredwr Breast Cancer Now:
‘this news comes at a time when there is a real possibility that Perjeta’— excuse me if I haven’t got the pronunciation right—
‘the first-line treatment for this group of patients, could soon be removed from NHS use, with a decision imminent. Perjeta’s benefits are extraordinary, offering nearly 16 additional months of life to women with incurable breast cancer, and it is imperative that a solution is found to save this drug, at a cost affordable to both the NHS and the taxpayer’.
Felly, tra ein bod ni’n croesawu’r cam ar Kadcyla, a allwch chi ein diweddaru ni ynglŷn â’r cyffur arall hefyd?
Gallaf, a’r pwynt ynglŷn â Kadcyla yw bod pris y gwneuthurwr, yn wreiddiol, yn rhy uchel i’r gwasanaeth iechyd ei dalu, a dyna oedd y cyngor a roddwyd i’r Gweinidogion iechyd. Dyna pam nad oedd y cyffur ar gael. Ailystyriwyd hynny bellach, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr. Ond yr her mewn perthynas ag unrhyw feddyginiaeth, boed yn Perjeta neu’n unrhyw gyffur arall, yw bod cydbwysedd rhwng ei heffeithiolrwydd clinigol a’i chosteffeithiolrwydd.
Yn y broses o wneud cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol y cytunasom ar y cyd i fynd drwyddi, daeth hynny allan yn glir iawn fel pwynt unfrydol gan y panel: ynglŷn â pheidio â cholli golwg ar y ffaith bod yna gost i hyn. Mae pob ceiniog a wariwn ar un driniaeth benodol yn geiniog ac yn bunt nad ydym yn eu gwario ar driniaethau eraill hefyd. Felly, mae’n rhaid cynnal y cydbwysedd hwnnw, a byddwn unwaith eto’n annog gweithgynhyrchwyr i chwarae rhan yn gynnar a thrafod effeithiolrwydd a chosteffeithiolrwydd eu triniaethau. Yr hyn y mae hynny’n ei olygu yw eu bod yn cael mynediad go iawn at y gwasanaeth er mwyn deall mwy am ddatblygiad y driniaeth yn ogystal â mwy o bobl i’w defnyddio, oherwydd fel arall byddwn yn parhau i gael yr ymgyrchoedd emosiynol hyn am bobl sy’n credu y gallai cyffur gynnig gobaith iddynt ymestyn eu bywydau neu achub eu bywydau. Ond rydym i gyd yn deall, mewn gwirionedd, na allwch dalu unrhyw bris am unrhyw driniaeth. Mae hynny’n anodd iawn, pan fyddwch yn edrych i fyw llygaid rhywun a dweud, ‘Rwy’n credu bod y driniaeth rydych eisiau ei chael yn rhy ddrud’, ond os na wnawn hynny, yna mae ein gwasanaeth yn mynd i fod yn anfforddiadwy. Os nad ydym yn barod i wneud hynny, rydym o bosibl yn peryglu’r gwasanaeth cyfan sy’n gwneud cymaint o ddaioni a chymaint o bethau’n gadarnhaol. Felly, os na allwn ddal ein tir ynglŷn â chael ymagwedd a arweinir gan dystiolaeth i hyn, yna rwy’n credu, mewn gwirionedd, ein bod yn peryglu ac yn tanseilio’r gwasanaeth cyfan. Mae’n bwynt anodd, ond rwy’n credu’n gryf mai dyna’r un cywir a dyna’n sicr yw barn unfrydol y panel Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol yn yr adroddiadau diweddar i bob un ohonom yn y misoedd diwethaf.
Diolch i fy nghyd-Aelod Angela Burns am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cytundeb rhwng GIG Cymru a Roche yn newyddion gwych i ddioddefwyr canser y fron yng Nghymru ac yn enghraifft berffaith o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio ar y cyd â’r diwydiant fferyllol. Mae’r fargen hon a’r gronfa driniaethau newydd yn golygu y gall menywod sydd â thiwmorau HER2 positif fyw am ychydig o fisoedd ychwanegol gwerthfawr ac osgoi’r broblem a oedd gennym gyda Herceptin. Mae’r triniaethau arloesol newydd hyn wedi’u targedu at gohortau cymharol fach, ac yn llawer mwy costus. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod yn ymwybodol o gyffuriau sydd ar y ffordd? Ac a fyddwch yn gweithio gyda’ch cymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau cytundebau mynediad masnachol ar driniaethau menter eraill yn y dyfodol?
Ydw, rwy’n hapus i ymateb. Wrth gwrs, mae’r cyffur penodol hwn yn rhoi chwe mis o fywyd ychwanegol ar gyfartaledd, ac mae’n ymwneud â gwerth a chost hynny. Unwaith eto, mae’r rhain yn asesiadau anodd iawn i’w gwneud, a dyna pam, a dweud y gwir, mai gwleidyddion yn aml yw’r bobl waethaf i geisio gwneud yr asesiad hwnnw. Fodd bynnag, ar y pwynt ehangach ynglŷn â deall beth sydd ar y ffordd, mewn gwirionedd cefais drafodaeth synhwyrol iawn dros y misoedd diwethaf gyda Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain a’u cynrychiolydd o Gymru ar y bwrdd, sy’n digwydd bod yn gweithio i Roche, sy’n gyd-ddigwyddiad llwyr, am y modd rydym yn cael sgyrsiau wrth i gyffuriau gael eu datblygu, ac ar ba adeg y gall y diwydiant fferyllol gael y sgwrs honno gyda llywodraethau a chyrff gwerthuso. Oherwydd po gyntaf y byddwch yn gwybod y gallai rhywbeth fod ar gael, y cynharaf y gallwch gynllunio.
A dweud y gwir, mae’r math hwnnw o ddull aeddfed yn bwysig iawn i ni, oherwydd mae’n rhaid i’r GIG allu ceisio cyllidebu ar gyfer triniaethau newydd sydd ar y ffordd. Mae’n rhaid iddo allu ceisio cynllunio’r seilwaith ar gyfer y rheini hefyd, sy’n aml yn bwysicach na’r gost o dalu am y feddyginiaeth. Mae hefyd yn ymwneud â’r diwydiant yn deall ei bod o fudd iddo fod yn agored gyda ni ar gam ychydig yn gynharach ynglŷn â’r hyn sydd ar y ffordd. Fel arall, yn y pen draw, byddwn yn cael y mathau hyn o frwydrau ar sail nad yw’n dda iddynt fel partner diwydiant, nad yw’n dda i’r gwasanaeth iechyd, ond yn y pen draw, nad yw’n dda i’r dinasyddion unigol sydd wedyn yn cael eu dal mewn ymgyrch rhwng gwahanol rannau o’r sector cyhoeddus a’r diwydiant, sy’n ceisio cynnig triniaeth a fydd, yn ôl yr hyn a ddywedant, yn darparu budd go iawn iddynt.
Felly, rwy’n optimistaidd ein bod yn parhau i gael y sgwrs aeddfed ac angenrheidiol honno ynglŷn â’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd ac i ddeall ein buddiannau sy’n cystadlu â’i gilydd. Nid wyf yn ceisio dweud wrth y diwydiant fferyllol na ddylai fod ganddynt hawl i wneud elw yn y ffordd y maent yn cyflawni eu busnes a’r hyn y maent yn ei roi i mewn i ddatblygu triniaethau newydd, ond mae’n rhaid iddo fod am bris sy’n fforddiadwy i’r trethdalwr ac o werth gwirioneddol o ran gwella canlyniadau i’r dinesydd unigol yn ogystal.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.