Part of 4. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch am y tri chwestiwn gwahanol. Ar y cwestiwn cyntaf ynglŷn â deall a oes dull gwahanol wedi’i weithredu ar gyfer yr asesiad technoleg a gyflawnwyd gan NICE ar effeithiolrwydd clinigol a hefyd ar gosteffeithiolrwydd mewn perthynas â chanlyniadau bywyd gwell, ni allwn ddweud dim wrthych am y manylion hynny a bod yn onest, er y byddwn yn hapus i gael sgwrs gyda swyddogion a phobl yng Ngrŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru i ddeall a oedd unrhyw wahaniaeth, ond yn sicr nid wyf yn gymwys i roi ateb i chi ynglŷn ag a oedd yna ddull gwahanol. Rwy’n hapus i gael golwg ar y broses a’r modd y cyflawnwyd hynny a dod yn ôl atoch.
Ar yr ail bwynt, yn gofyn ai’r un cytundeb sydd gennym yng Nghymru, ie, yr un cytundeb ydyw. Mae gennym yr un telerau yng Nghymru, ar yr un pryd. Roedd hynny’n rhan o’r negodi. Mewn gwirionedd, roeddwn yn y gynulleidfa yng nghynhadledd Cydffederasiwn y GIG yn Lloegr pan gyhoeddodd Simon Stevens y cytundeb o’r llwyfan, a llwyddo i godi sawl sgwarnog ynglŷn ag ai cytundeb ar gyfer Lloegr yn unig ydoedd ai peidio. Felly, rwy’n hapus iawn o fod wedi gallu cadarnhau ei fod yn gytundeb ar gyfer Cymru a Lloegr, heb unrhyw wahaniaeth o ran argaeledd y driniaeth yma yng Nghymru.
Yna, ar gyfer y dyfodol, rwy’n credu bod hyn yn sicr yn dweud rhywbeth wrthym nid yn unig am ymgyrchu ond am y berthynas aeddfed y mae angen i ni ei chael mewn gwirionedd gyda’r cyhoedd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ond hefyd gyda phobl yn y diwydiant fferyllol. Oherwydd mae’n hawdd cynnal ymgyrch sy’n seiliedig ar emosiynau pobl a allai gael cyffur sy’n ymestyn eu bywydau neu’n achub eu bywydau, ond fel rydych yn ei gydnabod yn gywir, mae’n rhaid cael cydbwysedd i bwrs y wlad ac i bawb ohonom gyda’n gilydd o ran faint rydym yn barod i’w dalu ar y cyd am driniaethau unigol ac i ddeall effeithiolrwydd gwirioneddol y triniaethau hynny. Rydym wedi gweld yn y gronfa cyffuriau canser, yr adolygiad annibynnol, ei fod yn cydnabod nad oedd yn bosibl dweud go iawn fod tua £1 biliwn, o’r £1.27 biliwn, wedi cael ei wario ar wella canlyniadau. Mae honno’n ffordd wael o wneud hyn, ac nid wyf yn credu ei fod yn ddefnydd da iawn o arian cyhoeddus. Felly, mae’n rhaid i ni ddeall bod proses sy’n ddilys, sy’n arbenigol ac sy’n cael ei harwain gan dystiolaeth yn darparu sicrwydd priodol am werth ac effeithiolrwydd triniaethau, ac yn yr un modd y sgwrs fwy aeddfed honno drwy’r diwydiannau fferyllol ynglŷn â’r hyn y gallant ei ddisgwyl a’r hyn y gall ac y bydd pwrs y wlad yn ei gyflawni, a’r dystiolaeth honno rydym ei hangen ar yr effeithiolrwydd hwnnw ynghyd â’i gost a’i werth.