Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 21 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf yw’r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â phroses y gyllideb a gweithdrefnau cyllid, a’r cynnig hefyd i gymeradwyo protocol y gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cynigiaf fod y ddau gynnig o dan eitemau 5 a 6 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Nag oes.